top of page

Ein Blaenoriaethau Datblygu
Our Development Priorities

DSC02750.JPG

Blaenoriaeth 1:Adeiladu Ymwybyddiaeth o Addysg Caffael Iaith ymhellach trwy Hyfforddi Staff Prif-Ffrwd wrth Rannu Addysgeg, Gwella Darpariaeth
Peripatetig, a Marchnata


Priority 1:

Further Build Awareness Language Acquisition Education 
by Training Mainstream Staff in Sharing Pedagogy, Improving Peripatetic Provision, and Marketing

Fel canolfan drochi iaith sydd wedi sefydlu strategaethau trochi llwyddiannus sy’n arwain ar rwydwaith cefnogol rhwng ysgolion cynradd Torfaen, rydym yn anelu at fod yn ganolfan rhagorol ac un sy’n arwain y ffordd yn y byd caffael iaith a throchi. Rydym yn ganolfan addysg drochi arloesol sydd yn cyfoethogi y profiad addysgu a dysgu a’n gweledigaeth gyda’r targed yma yw gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion i sicrhau cymorth a chefnogaeth priodol a chynaliadwy i’r dysgwyr. Trwy hyfforddi staff prif-ffrwd, rhannu addysgeg a gwella darpariaeth peripatetig, mi fyddwn yn adeiladu ymwybyddiaeth o addysg caffael iaith ymhellach o fewn ysgolion Torfaen.  Fel canolfan sydd wedi dathlu llwyddiannau’r gorffennol, rydym yn awyddus i hyrwyddo llwyddianau ein dyfodol i’r gymuned ehangach i adeiladu ymwybyddiaeth o addysg caffael iaith ymhellach.  Trwy’r targed, ein gweledigaeth yw denu fwy o blant i ddechrau ar eu taith i addysg cyfrwng Cymraeg gyda hyder y byddent yn llwyddiannus.

 

As a language immersion centre that has established successful immersion strategies that lead a supportive network between Torfaen primary schools, we aim to be a centre of excellence and one that leads the way in the world of language acquisition and immersion. We are an innovative immersion education centre that enriches the teaching and learning experience and our vision with this target is to work in partnership with schools to ensure appropriate and sustainable help and support for the learners. By training mainstream staff, sharing pedagogy and improving peripatetic provision, we will further build awareness of language acquisition education within Torfaen schools. As a centre that has celebrated past successes, we are keen to promote our future successes to the wider community to further build awareness of language acquisition education. Through the target, our vision is to attract more children to start their journey to Welsh-medium education with confidence that they would be successful.

20230705_092955443_iOS.jpg

Blaenoriaeth 2:

Datblygu Cwrs a Darpariaeth Gloywi Iaith ar gyfer Ymadawyr Cynradd trwy Gynllunio a Chreu Adnoddau Cyfoethog, Cynnal Peilotau Seiliedig ar Ymchwil a Mireinio Dulliau Addysgeg


Priority 2:

Develop a Language Polishing Provision and Course for Primary Leavers by Planning and Creating Rich Resources, Conducting Research-Based Pilots and Refining Pedagogical Methods

Fel canolfan trochi sydd wedi sefydlu ac yn mirenio’n barhaus ein cynllun trochi hwyr, rydym am ddatblygu cwrs darpariaeth gloywi iaith ar gyfer ymadawyr cynradd trwy adeiladu ar beilota er mwyn sicrhau deilliannau rhagorol ar gyfer dysgwyr a gosod sylfaen gadarn yn y Gymraeg. Mi fydd hyn yn datblygu diddordeb gydol oes o’r iaith Gymraeg a gwneud yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu yng nghyfundrefn addysg Gymraeg uwchradd yn Nhorfaen.  Ein gweledigaeth yw bydd y plant dysgywr hÅ·n y cynradd yn teimlo’n hyderus i drosglwyddo'n llwyddiannus i addysg gyfrwng y Gymraeg uwchradd.  Bydd y targed hwn yn ein helpu i wella ein darpariaeth fel ein bod yn ganolfan addysg drochi sy'n cynnig profiadau ieithyddol ac yn ysbrydoli dysgwyr i ddefnyddio’r iaith trwy gydol eu hoes. Ein bwriad hefyd yw lleihau’r nifer o ddisgyblion sy’n trosglwyddo o ysgolion gynradd cyfrwng Cymraeg i ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg.

 

As an immersion centre that has established and continually refines our late immersion scheme, we want to develop a language boosting provision course for primary leavers by building on our piloting in order to ensure excellent outcomes for learners and lay a solid foundation in the Welsh language. This will develop a lifelong interest in the Welsh language and develop ambitious, capable learners, who are ready to learn in the secondary Welsh education system in Torfaen. Our vision is that the older primary school learner children will feel confident to successfully transfer to secondary Welsh medium education. This target will help us to improve our provision so that we are an immersion education centre that offers linguistic experiences and inspires learners to use the language throughout their lives. Our intention is also to reduce the number of pupils who transfer from Welsh-medium primary schools to English-medium secondary schools.

DSC02749.JPG
bottom of page