top of page

Astudiaethau Achos
Case Studies

Leo, 2023

Leo - Carreg Lam.JPG
Carfan 1, Wythnos 1.jpg

Carreg Lam yw canolfan drochi’r Iaith Gymraeg yn Nhorfaen a sefydlwyd yn bennaf i gefnogi plant sydd am drosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg. Bellach yn addysgu ei hail garfan o ddisgyblion, mae staff Carreg Lam a staff ysgolion Torfaen yn gweithio’n ddiflino i gefnogi plant sydd wedi trosglwyddo i ddosbarthiadau prif ffrwd.

 

Un enghraifft yw Leo a oedd yn rhan o garfan gyntaf Carreg Lam yn Nhymor yr Haf 2023. Mae bellach wedi trosglwyddo i'w ddosbarth yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

 

Dywedodd Mr Price, athro Leo: “Cyn dechrau Carreg Lam, roedd gan Leo ddiffyg hyder ac nid oedd yn teimlo’n gyfforddus gyda’r Gymraeg. Ar ôl rhai wythnosau yng Ngharreg Lam gwelais newid mawr: roedd hyder Leo wedi cynyddu. Roedd yn fodlon dod lan ataf i drafod beth oedd o wedi gwneud y diwrnod hwnnw yn Carreg Lam, siarad am be oedd o’n neud fory a hefyd beth oedd o’n neud ar y penwythnos a hyn i gyd yn defnyddio’r Gymraeg. Erbyn hyn mae Leo wedi ymgartrefu’n wych yn ôl i’r ystafell ddosbarth ac yn rhan lawn o’r dosbarth.”

 

Yn dilyn rhaglen 12 wythnos o hyd yn Carreg Lam (a leolir ym Mhont-y-pŵl), mae Leo yn cael ei gefnogi am 12 wythnos arall trwy wersi peripatetig i barhau i roi hwb i'w hyder.

 

Dywedodd mam Leo: “Yn flaenorol roedd Leo yn swil iawn… ond nawr mae’n teimlo’n hyderus yn yr ysgol ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol y tu allan i’r ysgol. Mae bellach yn awyddus i gymryd rhan mewn darllen Cymraeg gyda mi hefyd. Mae Leo wedi fy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg ac rwy'n dechrau fy nghwrs wythnos nesaf. Dw i eisiau i bobl fynd amdani!”

 

Mae Carreg Lam yn chwilio am ddisgyblion ar gyfer ei thrydedd garfan. Edrychwch ar eu gwefan am fwy o wybodaeth: www.carreg-lam.com neu cysylltwch â carreg-lam@torfaen.gov.uk.

"Gwelais newid mawr: roedd hyder Leo wedi cynyddu!"

"I saw a big change, Leo's confidence had grown!"

Carreg Lam is Torfaen’s Welsh immersion centre primarily set up to support children who want to transfer to Welsh medium education. Now teaching its second cohort of pupils, Carreg Lam staff and Torfaen’s school staff work tirelessly to support children who have transitioned into main-stream classes.

 

One such example was been Leo who was part of Carreg Lam’s first cohort in the Summer Term of 2023. He has now transitioned into his class at Ysgol Gymraeg Cwmbran.

 

Mr Price, Leo’s teacher said: “Before starting Carreg Lam, Leo lacked confidence and did not feel comfortable with the Welsh language. After a few weeks at Carreg Lam I saw a big change: Leo's confidence had grown. He was willing to come up to me and discuss what he had done that day in Carreg Lam, talk about what he was doing tomorrow and also what he was doing at the weekend and all this using the Welsh language. By now Leo has settled wonderfully back into the classroom and is a full part of the class.”

 

Following a 12-week long programme at Carreg Lam (based in Pontypool), Leo is being supported for another 12 weeks through peripatetic lessons to continue to boost his confidence.

 

Leo’s mother said: “Previously Leo was extremely shy… but now he feels confident both in school and during social situations outside of school. He’s now eager a willing to engage in Welsh reading with me too. Leo has inspired me to learn Welsh and I begin my course next week. I want people to just go for it!”

 

Carreg Lam is looking for pupils for its third cohort. Have a look a their website for more information: www.carreg-lam.com or contact carreg-lam@torfaen.gov.uk.

bottom of page