top of page

Datganiadau i'r Wasg
Press Releases

Newspapers
05/07/2023
Newyddion Torfaen
Torfaen News

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

 

Heddiw, mae’r disgyblion cyntaf o Uned Drochi Iaith Gymraeg newydd Torfaen – Carreg Lam, wedi graddio.

 

Cwblhaodd naw o ddisgyblion y rhaglen addysg 12 wythnos o hyd, gan ddysgu’r iaith Gymraeg mewn ffordd strwythuredig ac arloesol.

 

Byddan nhw nawr yn ymuno â dosbarthiadau yn y brif ffrwd a byddan nhw’n parhau i gael cefnogaeth gan y ganolfan yn eu hysgolion cyn i’r disgyblion nesaf gyrraedd fis Medi.

 

Agorodd Carreg Lam, yn Ebrill, ac mae’n uned drochi hwyr i helpu dysgwyr 7 i 11 oed sy’n dod i addysg gyfrwng Cymraeg yn hwyrach.

 

Mae ar gael hefyd i ddisgyblion nad yw’r Gymraeg efallai wedi bod yn rhan o’u trefn ddyddiol, i gael y sgiliau a’r hyder y mae eu hangen i barhau i ddysgu yn Gymraeg.

 

Dywedodd Pennaeth Carreg Lam, Matthew Dicken-Williamson: “Heddiw, rydym ni wedi ymuno gyda’n gilydd i ddathlu llwyddiant naw o blant anhygoel.  Rydym hefyd yn cyfarfod i ddathlu cyfoeth a chydnerthedd yr iaith Gymraeg a phwysleisio pwysigrwydd dwyieithrwydd yn ein cymdeithas.

 

“Mae gan yr iaith Gymraeg le arbennig yn ein calonnau, oherwydd nid yw’n ffordd o gyfathrebu’n unig ond mae’n symbol o’n treftadaeth ddiwylliannol a’n hunaniaeth.”

 

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg dystysgrifau a phlaciau, i gydnabod eu hymrwymiad eithriadol a’u llwyddiannau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Clark: "Rydw i am longyfarch y plant eithriadol yma am eu hymroddiad, eu hymrwymiad a’u llwyddiannau.

“Maen nhw wedi braenaru tir i genedlaethau’r dyfodol, gan osod safon uchel o ragoriaeth a dangos eu hun fel esiampl i eraill."

 

Hoffech chi wybod mwy am sut allai eich plentyn ddysgu Cymraeg, gallai Carreg Lam fod yr union beth i chi!

 

Cysylltwch â’r ganolfan trwy e-bostio carreg-lam@torfaen.gov.uk neu ewch at y wefan: www.carreg-lam.com

CachedImage.jpg

Today, the first set of pupils from Torfaen’s newly established Welsh Language Immersion Unit – Carreg Lam, have graduated.

 

Nine pupils completed the 12-week education programme, learning the Welsh Language in a structured and innovative way.

 

They will now join their main-stream classes and will continue to be supported by the centre in their schools before the next round of pupils arrive in September.

 

Carreg Lam, which means ‘stepping stone’, opened in April and is a late immersion provision unit set up to help learners aged 7 to 11, entering Welsh-medium education at a later stage.

 

It also caters for pupils for whom Welsh may not have been part of their daily routine, to gain the skills and confidence needed to continue their learning through Welsh.

 

Head Teacher at Carreg Lam, Matthew Dicken-Williamson, said: “Today, we have joined together to celebrate the success of nine wonderful children. We also met to celebrate the richness and resilience of the Welsh language and to emphasise the importance of bilingualism in our society.

 

“The Welsh language holds a special place in our hearts, as it is not just a means of communication but a symbol of our cultural heritage and identity.”

 

Councillor Richard Clark, Torfaen Councils Executive Member for Children, Families and Education, awarded the children with certificates and plaques, acknowledging their exceptional commitment and accomplishments.

 

Councillor Clark said: "I want to extend my congratulations to these exceptional children for their dedication, commitment, and outstanding achievements.

 

“They have paved the way for future generations, setting a high standard of excellence and serving as an inspiration to their peers."

 

Do you want to know more about how your child could learn the Welsh language? Carreg Lam could be the very thing for you!

Contact the centre by emailing carreg-lam@torfaen.gov.uk or visit the website: www.carreg-lam.com

20/04/2023
Newyddion Torfaen
Torfaen News

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

 

Mae canolfan arbenigol wedi agor yr wythnos yma i blant sydd am drosglwyddo o addysg gynradd gyfrwng Saesneg i addysg gyfrwng Cymraeg.  

Mae uned Carreg Lam yn Ysgol Panteg yn Nhref Gruffydd ac mae’n cynnig 12 lle i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 6.

 

Mae Harvey sy’n saith oed yn un o’r disgyblion cyntaf i ddechrau gwersi yng Ngharreg Lam, ar ddydd Llun. 

 

Dywedodd ei fam, Lauren: “Mewn hyd yn oed amser byr, mae hyder Harvey wedi tyfu’n sylweddol gyda’r iaith ond rydym hefyd wedi gweld newid cadarnhaol yn ei hunanhyder.  Mae e’n dechrau defnyddio Cymraeg yn gymdeithasol.

"Rydym mor ddiolchgar am y cyfle iddo fynychu Carreg Lam gan nad oedd hyn yn rhywbeth oedd ar gael i ni fel rhieni pan oeddem ni’n iau.  Bydd hyn yn helpu ei waith yn wirioneddol ac yn rhoi cyfleoedd iddo yn y dyfodol.”

Mae lleoedd yn cael eu cynnig fesul tymor a bydd disgyblion yn cofrestru ar raglen iaith ddwys am 12 wythnos i wella’u Cymraeg.

Bydan nhw’n cael eu cefnogi wedyn i symud i mewn i ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg prif ffrwd.

Ariennir y rhaglen gan grant tair blynedd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n un o nifer o unedau trochi cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Addysg: “Mae’r cyngor wedi ymrwymo i chwilio am gyfleoedd a goresgyn heriau i hyrwyddo sgiliau Cymraeg a chefnogi dwyieithrwydd mewn amgylchedd cadarnhaol.

“Mae cynnig cyfle i deuluoedd symud i addysg gyfrwng Cymraeg yn helpu i gynyddu’r cyfleoedd hynny i ddysgu’r iaith.”

Am wybodaeth am uned Carreg Lam neu i ofyn am daflen Bod yn Ddwyieithog y Cyngor ynglŷn ag addysg Gymraeg yn Nhorfaen, cysylltwch â’n tîm derbyniadau trwy schooladmissions@torfaen.gov.uk neu 01495 766915.

Dilynwch y gweithgareddau cyffrous eraill i ddisgyblion Carreg Lam ac Ysgol Panteg, yn ogystal ag ysgolion eraill yn Nhorfaen, trwy chwilio am #NotInMissOut neu #DdimMewnColliMas yn y cyfryngau cymdeithasol

20230419_130708996_iOS_edited.jpg

A specialist centre has opened this week for children who want to transfer from English-medium to Welsh medium primary school education.  

The Carreg Lam unit is based at Ysgol Panteg in Griffithstown and offers 12 places for pupils in Years 2 to 6.

 

Seven year old Harvey is one of the first pupils to start lessons at Carreg Lam, which means "stepping stone", on Monday. 

 

His mother Lauren said: “Even in such a short time, Harvey’s confidence has grown tremendously with the language but also we’ve seen a positive change in his self-confidence. He is beginning to use Welsh socially.

"We are so grateful for the opportunity for him to attend Carreg Lam as this wasn’t something that was available to us as parents when were younger. This will really help his work and give him future opportunities.”
 

Places are offered on a term-by-term basis and will see pupils enrol onto a 12-week intensive language programme to improve their Welsh.

They will then be supported to move into mainstream Welsh medium classes.

The pilot programme is funded by a three-year Welsh Government grant and is one of a series of Welsh-medium immersion units in Wales.

Cllr Richard Clark, Torfaen Council's Executive Member for Education, said: “The council is committed to seeking opportunities and overcoming challenges to promote Welsh language skills and support bilingualism in a positive environment.

“Offering families the chance to move into Welsh-medium education helps to increase those opportunities to learn the language.”

For information about Carreg Lam or to request a copy of the Council’s Being Bilingual leaflet about Welsh-medium education in Torfaen, contact our school’s admissions team on schooladmissions@torfaen.gov.uk or call 01495 766915.

Follow the exciting activities pupils at Carreg Lam and Ysgol Panteg do, as well as at all other schools in Torfaen, by searching for #NotInMissOut or #DdimMewnColliMas on social media. 

20/04/2023
Post Prynhawn Radio Cymru
Afternoon Post, Radio Cymru
00:00 / 05:31
03/2023
Llais Torfaen
Torfaen Talks
Torfaen Talks - Mawrth 2023 (3).jpg
Torfaen Talks - Mawrth 2023 (1).jpg
18/01/2023
Newyddion Cymru Fyw
Cymru Fyw News
17/01/2023
Newyddion Radio Cymru
Radio Cymru News
00:00 / 02:22
17/01/2023
Newyddion S4C 
S4C News
bottom of page