top of page

01/03/2023 - Yr Wythnos Dan Ffocws | The Week in Focus

Diwedd Wythnos 9 | End of Week 9

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


Mae'r plant wedi cael llawer o hwyl ac wedi dysgu llawer o iaith anodd yr wythnos hon! Maen nhw wedi bod yn gyffrous iawn i ymarfer eu holl sgiliau!




Uchafbwyntiau’r Wythnos

Dysgodd y plant am bobl sy’n ein helpu a'r eirfa sy’n disgrifio nhw. Roedd y plant wedi mwynhau gwrando am enw person sy’n ein helpu ac yna chwistrellu dŵr at yr eirfa oedd yn disgrifio nhw orau. Roedd cyfle i’r plant trafod pwy roeddwn nhw’n edmygu hefyd gan esbonio pam gan ddefnyddio amryw o ansoddeiriau. Roedd nifer o blant yn edmygu plismon. Yn symud ymlaen, edrychodd y plant ar fathau gwahanol o wyliau cyn creu pamffled am ei hoff fath o wyliau. Yn y prynhawn, dysgodd y plant am wahanol fathau of fapiau. Roedd y plant wedi synnu ar ba mor fach yw Cymru i gymharu â gweddill y byd ac yna labelodd y plant map o Gymru gydag allwedd. Yng nghanol yr wythnos dysgodd y plant am y swyddfa bost. Cymharodd y plant pwysau gwahanol, maint parseli a maint amlenni. Yna, ysgrifennodd y plant cerdyn post am beth maen nhw wedi gwneud yng Ngharreg Lam hyd yn hyn. Roedd y plant yn gyffrous i ysgrifennu at ffrindiau yn ôl yn yr ysgol. Tuag at ddiwedd yr wythnos roedd cyfle i fynd ar drip i’r dref ar ôl dysgu am wahanol fathau o siopau. Gweithiodd y plant yn galed i gofio enwau Cymraeg y siopau i gyd.  Ond, yn sicr, uchafbwynt y trip i’r dref roedd postio'r cardiau post. Roedd y plant yn gyffrous iawn. I orffen yr wythnos, dysgodd plant am gyfesurynnau. Dysgon nhw sut i ddarllen a chofnodi cyfesurynnau ac roedd cyfle creu grid enfawr a thrafod yr ardal leol o amgylch Carreg Lam.






Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf

Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Anifeiliaid yng Nghymru’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.

  • Sut/pa/pwy/beth/ble/pryd.....?

  • Does gen i ddim..

  • Mae e/hi...

  • Mae ganddo/ mae ganddi..

  • Bydd...

  • Byddai'n...

  • Fy hoff anifail ydy..


Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:


Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol a’r wythnosau sydd i ddod:


Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • WYTHNOS NESAF: Ddydd Mercher nesaf, 06/03/2024, rydym yn mynd ar drip i Ddŵr Cymru.

  • AR Y GORWEL: Cofiwch bod ein seremoni graddio ar y 13/03/2024 am 10yb.

  • Mae’r plant yn agosáu at eu wythnosau olaf yng Ngharreg Lam. Yn ystod eu hwythnosau olaf, byddwch yn derbyn adroddiad cynnydd sy’n cynnwys gwybodaeth am eu datblygiad ieithyddol, a’r gefnogaeth y byddant yn parhau i’w derbyn yn dilyn eu cyfnod yma yng Ngharreg Lam. Bydd hefyd cyfarfod cynnydd a lles dewisol ar gael ar 12/03/2024, 13/03/2024 a 14/03/2024 o 3:45pm ymlaen. Cysylltwch â Mrs Soper ar Class Dojo os hoffech drefnu cyfarfod cynnydd terfynol.


 

Dear Families,


The children have had lots of fun and learnt a lot of difficult language this week! They’ve been really excited to practice all their skills!





Highlights of the Week

The children learned about people who help us and the vocabulary that describes them. The children enjoyed listening for the name of a person who helps us and then spraying water at the vocabulary that best described them. There was also an opportunity for the children to discuss who they admired and explain why using various adjectives. Several children admired a policeman. Moving on, the children looked at different types of holiday before creating a pamphlet about their favourite type of holiday. In the afternoon, the children learned about different types of maps. The children were surprised at how small Wales is compared to the rest of the world and then the children labelled a map of Wales with a key. In the middle of the week the children learned about the post office. The children compared different weights, parcel sizes and envelope sizes. Then, the children wrote a postcard about what they have done at Carreg Lam so far. The children were excited to write to friends back at school. Towards the end of the week there was an opportunity to go on a trip to the town after learning about different types of shops. The children worked hard to remember the Welsh names of all the shops. But, certainly, the highlight of the trip to town was posting the postcards. The children were very excited. To finish the week, children learned about coordinates. They learned how to read and record coordinates and there was an opportunity to create a huge grid and discuss the local area around Carreg Lam.






Next Week’s Language Patterns and Vocabulary

Our theme for next week, ‘Animals in Wales’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.

  • Sut/pa/pwy/beth/ble/pryd.....?

  • Does gen i ddim..

  • Mae e/hi...

  • Mae ganddo/ mae ganddi...

  • Bydd...

  • Byddai'n...

  • Fy hoff anifail ydy..


Follow the following link to see all the patterns for next week::


Remember that you can go to our website at any time to see the previous language patterns from previous weeks and the weeks to come:


Important Dates for Your Diary

  • NEXT WEEK: On Wednesday, 15/11/2023, we will be going on a trip to Dŵr Cymru

  • ON THE HORIZON: Remember that our graduation ceremony is on 22/11/2023 at 10am.

  • The children are approaching their final weeks in Carreg Lam. During their final weeks, you will receive a progress report containing information about their linguistic development, and the support they will continue to receive following their time here at Carreg Lam. There will also be an optional progress and wellbeing meeting available on 12/03/2024, 13/03/2024 and 14/03/2024 from 3:45pm. Please contact Mrs Soper on Class Dojo should you wish to arrange a final progress meeting.

2 views

Comments


bottom of page