21/04/2023 - Yr Wythnos dan Ffocws | The Week in Focus
- Matthew James Dicken
- Apr 20, 2023
- 4 min read
SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
Ni allwn gredu ei bod wedi bod yn wythnos gyfan ers i'ch plentyn ddechrau gyda ni yng Ngharreg Lam! Am wythnos! Rydyn ni wedi gwneud cymaint ac mae'r plant wedi llwyddo cymaint! Maen nhw wedi setlo'n dda iawn ac rydyn ni nawr yn dechrau'r gwaith go iawn o ddifrif.

Uchafbwyntiau’r Wythnos
Mae pawb wedi dod i adnabod ein gilydd, ymgyfarwyddo gyda’r ysgol, ac wrth gwrs, creu ffrindiau newydd. Mae’r plant i gyd wedi cael effaith anhygoel ar bob aelod o staff yn yr ysgol trwy ddangos brwdfrydedd a chwrteisi. Yr wythnos yma rydym ni wedi mwynhau creu cinio ein hunain er mwyn dysgu geiriau bwydydd yn well, dysgu gemau newydd fel Twister, Nadroedd ac Ysgolion a Kerplunk. Rydyn ni wedi bod yn greadigol gyda thoes a chael hwyl a sbri wrth ddysgu’r iaith. Dyfyniad yr Wythnos: ”I love it here, can I do an ‘I love it’ dance?”



Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf
Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Y Parc’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.
Beth sydd yn y…? Mae … yn y …
Oes… yn y …? Oes, mae… yn y … / Nac oes, does dim… yn y…
Arddodiaid. Ble mae… Ydy e/hi o dan/tu ôl? Ydy / Nac ydy.
Rwy’n gallu…
Rwy’n hoffi…
Rydw i eisiau…
Beth mae… yn gwneud…? Mae… yn… (berfau).
Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:
Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol a’r wythnosau sydd i ddod:
Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur
YR WYTHNOS NESAF: Ddydd Mawrth, 25ain o Ebrill, byddwn yn mynd i Barc Pontypool er mwyn parhau i ddysgu'r iaith yn yr awyr agored. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam. Fodd bynnag, bydd angen cinio paciedig a photel o ddŵr i'ch plentyn. Cofiwch esgidiau da, synhwyrol a chôt gynnes, ddi-ddŵr.
YR WYTHNOS AR ÔL: Ddydd Mercher, 3ydd o Ebrill, byddwn yn mynd i Ganol Tref Cwmbrân er mwyn parhau i ddysgu'r iaith ym myd go iawn caffi. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam.
Gobeithio y cewch chi benwythnos hyfryd! Welwn ni chi i gyd yr wythnos nesaf!
Dear Families,
We can’t believe it has been one whole week since your child started with us at Carreg Lam! What a week its been! We’ve done so much and the children have come so far! They’ve settled really well and we now start the real work in earnest.

Highlights of the Week
Everyone has come to know each other, familiarise themselves with the building, and, of course, making new friends. All children have had an incredible impact on all staff at the school by showing enthusiasm and courtesy. This week we have enjoyed creating our own lunch to better learn the words of foods, learn new games like Twister, Snakes and Ladders and Kerplunk. We have been creative with playdough and have fun learning the language. Quote of the Week: ”I Love It Here, Can I Do An 'I Love It' Dance?”



Next Week’s Language Patterns and Vocabulary
Our theme for next week, ‘The Park’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.
Beth sydd yn y…? Mae … yn y …
Oes… yn y …? Oes, mae… yn y … / Nac oes, does dim… yn y…
Arddodiaid. Ble mae… Ydy e/hi o dan/tu ôl? Ydy / Nac ydy.
Rwy’n gallu…
Rwy’n hoffi…
Rydw i eisiau…
Beth mae… yn gwneud…? Mae… yn… (berfau).
Follow the following link to see all the patterns for next week::
Remember that you can go to our website at any time to see the previous langauge patterns from previous weeks and the weeks to come:
Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur
NEXT WEEK: On Tuesday, 25th of April, we will be going to Pontypool Park in order to continue learning the language in the outdoors. We already have your permission for this trip on your admissions form. So, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit – costs are covered by Carreg Lam. However, please supply a packed lunch and bottle of water for your child. Remember good, sensible shoes and a warm, waterproof coat.
THE WEEK AFTER: On Wednesday, 3rd of May, we will be going to Cwmbran Town Centre in order to continue learning the language in the real world of a café. We already have your permission for this trip on your admissions form. So, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit – costs are covered by Carreg Lam.
We hope you have a lovely weekend! See you all next week!




Comments