29/06/2023 - Yr Wythnos Dan Ffocws | The Week in Focus
- Matthew James Dicken
- Jun 30, 2023
- 3 min read
Dydd Gwener / Friday, 30/06/2023
Diwedd Wythnos 10 | End of Week 10
SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION
Annwyl Deuluoedd,
Waw! Bellach dim ond pythefnos sydd ar ôl yn Carreg Lam! Peidiwch ag anghofio seremoni graddio ein plant yr wythnos nesaf! Yr wythnos ar ôl, rydyn ni'n cael wythnos adolygu.

Uchafbwyntiau’r Wythnos
Mae’r plant wedi bod wrth eu boddau yn dysgu am anifeiliaid. Ar ddechrau’r wythnos, dysgon ni enwau anifeiliaid anwes, anifeiliaid sy’n byw ar y fferm, anifeiliaid sydd yn y goedwig ac enwau trychfilod. Chwaraeon ni gem i helpu’r plant adnabod nodweddion yr anifeiliaid a ble oedd yr anifeiliaid yn byw hefyd. Roedd y plant wedi mwynhau defnyddio geiriadur i edrych am wahanol anifeiliaid. Roedd cyfle i fod yn greadigol yng nghanol yr wythnos. Defnyddiodd y plant paent i greu llun o anifeiliaid. Dysgodd y plant am ansoddeiriau gwahanol i ddisgrifio anifeiliaid trwy wneud symudiadau er mwyn cofio geirfa heriol. Dysgodd y plant hefyd sut i drosi berfau a chwaraeon nhw gem o Jenga i helpu gyda hyn. Dysgon am swydd y ffermwr ymhellach yn yr wythnos. Llenwodd y plant amserlen i sicrhau bod nhw’n llwyddo edrych ar ôl yr holl anifeiliaid ar y fferm. Roedd y plant hefyd wedi adrodd yr amserlen o flaen y dosbarth. Roedd cyfle i’r plant mynegi eu hoff anifeiliaid anwes ar ddiwedd yr wythnos ac yna rhoi mewn tabl a graff. Roedd y plant hefyd wedi dewis anifail er mwyn ysgrifennu ffeil o ffeithiau.


Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf
Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Anifeiliaid y Byd’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.
Awn ni / wnawn ni
Aethon ni / Aethon nhw
Ansoddeiriau + treiglad meddal
Ansoddeiriau cymharol - yn dal, yn dalach na, y talaf, yn hir, yn hirach, yr hiraf
Idiomau - A’i wynt yn ei ddwrn, ar bigau’r drain, bwrw hen wragedd a ffyn, cael llond bol, codi calon, heb siw na miw, gwneud ei orau glas, yn wen o glust i glust, rhoi'r ffidl yn y to
Enwau lluosog anifeiliaid, eliffantod, pysgod, teigrod, mwncïod, adar, nadroedd, brogaod, madfallod, crwbanod, siarcod
Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:
Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol:
Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur
WYTHNOS NESAF: Cofiwch bod ein seremoni graddio ar y 05/07/2023 am 10yb.

Dear Families,
Wow! There is now only two weeks left at Carreg Lam! Don’t forget our children’s graduation next week! The week after, we are having a revision week.

Highlights of the Week
The children have loved learning about animals. At the start of the week, we learned the names of pets, animals living on the farm, animals in the forest and insect names. We played a game to help the children identify the characteristics of the animals and where the animals also lived. The children enjoyed using a dictionary to look for different animals. There was an opportunity to be creative in the middle of the week. The children used paint to create a picture of animals. The children learned about different adjectives to describe animals by making movements to remember a challenging vocabulary. The children also learned how to convert verbs and played a game of Jenga to help with this. We learned about the farmer's job further in the week. The children filled a timetable to ensure that they managed to look after all the animals on the farm. The children also reported the timetable in front of the class. The children had the opportunity to express their favourite pets at the end of the week and then put in a table and graph. The children had also chosen an animal to write a file of facts.


Next Week’s Language Patterns and Vocabulary
Our theme for next week, ‘Animals of the World’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.
Awn ni / wnawn ni
Aethon ni / Aethon nhw
Ansoddeiriau + treiglad meddal
Ansoddeiriau cymharol - yn dal, yn dalach na, y talaf, yn hir, yn hirach, yr hiraf
Idiomau - A’i wynt yn ei ddwrn, ar bigau’r drain, bwrw hen wragedd a ffyn, cael llond bol, codi calon, heb siw na miw, gwneud ei orau glas, yn wen o glust i glust, rhoi'r ffidl yn y to
Enwau lluosog anifeiliaid, eliffantod, pysgod, teigrod, mwncïod, adar, nadroedd, brogaod, madfallod, crwbanod, siarcod
Follow the following link to see all the patterns for next week::
Remember that you can go to our website at any time to see the previous langauge patterns from previous weeks:
Important Dates for Your Diary
NEXT WEEK: Remember that our graduation ceremony is on 05/07/2023 at 10am.





Comments