top of page
Search

28/04/2023 - Yr Wythnos dan Ffocws | The Week in Focus

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


Mae thema dysgu iaith yr wythnos hon o’r ‘Parc’ wedi bod yn wych! Roedd yn ffantastig gweld wynebau'r plant wrth iddynt orfod defnyddio'r ymadroddion yr oeddent wedi'u dysgu ym Mharc Pontypool yn hyderus.





Uchafbwyntiau’r Wythnos

Mae hyder y plant yn tyfu pob dydd ac mae’n braf clywed nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn fwy ac yn fwy. Yr wythnos yma, rydym ni wedi mwynhau creu plât o fwyd mas o siapiau 2D. Rydym hefyd wedi trafod lluniau o'n thema. Roedd e’n heriol sylwi ar y gwahaniaeth rhwng dau lun o’r parc, ond roedd y plant wedi sicrhau llwyddiant trwy weithio mewn pâr ac fel tîm. Bendigedig! Uchafbwynt yr wythnos oedd trip i’r parc ym Mhontypŵl. Roedd y plant wedi mwynhau i’r eithaf ac roedd eu hymddygiad yn berffaith. Chwaraeon ni yn frwdfrydig yn y parc, cerddon ni trwy’r coed lliwgar ac ymlacion ni gyda snac a diod ar y glaswellt. Mae’r plant wedi mwynhau dysgu am beth sydd angen ar gyfer picnic a hefyd wedi dewis dillad addas ar gyfer diwrnodau braf ac oer. Rydym wedi dysgu llawer am beth rydym ni yn dda yn gwneud ac rydyn yn edrych ymlaen at ddysgu mwy amdanyn ni ein gilydd dros yr wythnosau nesaf. Roedd trafod ac arbrofi gyda theganau o'r hen ddyddiau yn ddiddorol iawn a does dim syndod bod well gan y plant y teganau sydd ganddyn nhw hyd heddiw.








Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf

Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Y Caffi’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.

  • Wyt ti’n hoffi…? Rydw i’n hoffi… / Dydw i ddim yn hoffi…

  • Wyt ti eisiau…? Rydw i eisiau… / Dydw i ddim eisiau…

  • Mae angen…

  • Cysyllteiriau (e.e. a, ac, yna, wedyn)

  • Cefais i / Ces i

  • Dyddiau’r Wythnos

  • Bwytais i… / Bwytaodd… & Gorffennol y ferf


Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:


Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol a’r wythnosau sydd i ddod:





Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • YR WYTHNOS NESAF: Ddydd Mercher, 3ydd o Fai, byddwn yn mynd i Ganol Tref Cwmbrân er mwyn parhau i ddysgu'r iaith ym myd go iawn caffi. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam.

  • YR WYTHNOS AR ÔL: Ddydd Mercher, 10fed o Fai, byddwn yn mynd i Hollywood Bowl Cwmbrân er mwyn parhau i ddysgu'r iaith yn y byd go iawn. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam.

  • AR Y GORWEL: Mae gennym Cyfarfodydd Cynnydd a Lles disgyblion yn rhedeg ar 23/05/2023 i 25/05/2023 ar ôl ysgol. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod sut mae'ch plentyn yn gwneud hyd yn hyn, sut maen nhw wedi setlo a beth yw eu camau nesaf. Byddwn mewn cysylltiad er mwyn trefnu ymgynghoriad gyda chi. Gofynnir i chi a ydych am gael cyfarfodydd mewn person (ein dewis cyntaf), cyfarfodydd dros y ffôn neu Microsoft Teams. Rydym yn hapus i wneud unrhyw un o'r rhain. Os penderfynwch fynd am alwad ffôn neu fideo, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r rhif yr ydych yn dymuno inni ei ffonio neu cyfeiriad e-bost yr ydych yn dymuno inni sefydlu cyfarfod Timau Microsoft ag ef. Ein disgwyliad yw y bydd pob teulu'n mynychu'r cyfarfodydd hyn (naill ai'n mewn person neu yn rhithiol). Yng Ngharreg Lam, mae gennym bolisi drws agored ar gyfer teuluoedd. Felly, mae croeso i chi gysylltu â ni cyn y Cyfarfod Cynnydd a Lles hwn i gael cefnogaeth, cyngor neu i rannu unrhyw bryderon. Rydym yn croesawu sgwrs ac ein bwriad yw gweithio'n agos gyda chi. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni! Gallwch gysylltu â ni trwy:

-dod mewn I’n gweld ni cyn neu ar ôl amser ysgol;

-rhowch alwad in ni ar 01495 762581; neu,

-anfonwch e-bost i ni (post@carreg-lam.com).


Diolch am eich holl gefnogaeth! Mwynhewch eich penwythnos!





Dear Families,


This week’s language learning theme of ‘The Park’ has been great! It was great to see the children’s faces as they got to confidently use the phrases they had learnt at Pontypool Park..




Highlights of the Week

The children's confidence is growing every day and it is nice to hear them use Welsh more and more. This week, we have enjoyed creating a plate of food out of 2D shapes. We have also discussed photos of our theme. It was challenging to notice the difference between two pictures of the park, but the children had achieved success by working in a pair and as a team. Fantastic! The highlight of the week was a trip to the park in Pontypool. The children enjoyed it and their behaviour was exemplary. We played enthusiastically in the park, walked through the colourful trees and relaxed with a snack and drink on the grass. The children have enjoyed learning what you need for a picnic and have also chosen suitable clothing for nice and cold days. We have learned a lot about what we are doing and look forward to learning more about us over the coming weeks. Discussing and experimenting with toys from the old days was very interesting and it's no surprise that the children enjoy today’s toys better.








Next Week’s Language Patterns and Vocabulary

Our theme for next week, ‘The Café’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.

  • Wyt ti’n hoffi…? Rydw i’n hoffi… / Dydw i ddim yn hoffi…

  • Wyt ti eisiau…? Rydw i eisiau… / Dydw i ddim eisiau…

  • Mae angen…

  • Cysyllteiriau (e.e. a, ac, yna, wedyn)

  • Cefais i / Ces i

  • Dyddiau’r Wythnos

  • Bwytais i… / Bwytaodd… & Gorffennol y ferf


Follow the following link to see all the patterns for next week::


Remember that you can go to our website at any time to see the previous language patterns from previous weeks and the weeks to come:





Important Dates for Your Diary

  • NEXT WEEK: On Wednesday, 3rd of May, we will be going to Cwmbran Town Centre in order to continue learning the language in the real world of a café. We already have your permission for this trip on your admissions form. So, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit – costs are covered by Carreg Lam.

  • THE WEEK AFTER: On Wednesday, 10th of May, we will be going to Hollywood Bowl in order to continue learning the language in the real world. We already have your permission for this trip on your admissions form. So, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit – costs are covered by Carreg Lam.

  • ON THE HORIZON: We have our pupil progress and wellbeing meetings running on 23/04/2023 to 25/04/2023 after school. This is a great opportunity to find out how your child is doing so far, how they’ve settled and what their next steps are. We will will be in contact in order to arrange a consultation with you. You will be asked if you wish to have in-person meetings (our first choice), telephone or Microsoft Teams meetings. We are happy to do any of these. If you do decide to go for a telephone or video call, please ensure that you give the number you wish us to call or email you wish us to set up the Microsoft Teams meeting with. It is our expectation that all families will attend these meetings (either in-person or virtually). At Carreg Lam, we have an open door policy for families. So, you are welcome to contact us before this Pupil Progress and Wellbeing Meeting for support, advice or to share any of your concerns. We welcome conversation and desire to work closely with you. Please don’t hesitate to get in contact with us! You can contact us by:

-coming to see us before or after school time;

-giving us a ring on 01495 762581; or,

-sending us an email (post@carreg-lam.com).


Thanks for your support! Enjoy your weekend!




 
 
 

Comments


Carreg Lam c/o Ysgol Panteg,

Heol yr Orsaf, Tre Griffith, Pont-y-Pŵl, Torfaen, NP4 5JH

carreg-lam@torfaen.gov.uk

© Carreg Lam 2025

bottom of page