top of page
Search

05/05/2023 - Yr Wythnos Dan Ffocws | The Week in Focus

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


A dyma ni’n dod i ddiwedd ein trydydd wythnos yng Ngharreg Lam! Mae’n hyfryd gweld y plant wedi cymhell gymaint wrth ddysgu’r Gymraeg! Mae wir yn ein gwneud yn falch o’u holl ymdrechion a llwyddiannau!



ree


Uchafbwyntiau’r Wythnos

Mae ein thema ‘Y caffi’ wedi annog trafodaeth frwdfrydig yr wythnos hon. Mae’r plant wedi dangos hyder wrth fynegi barn am fwyd maen nhw’n hoffi a dim yn hoffi, a chafodd y plant cyfle i greu creu cebabs ffrwythau hefyd. Roedd y plant wedi mwynhau'r cyfrifoldeb o dorri'r ffrwyth eu hun ac mae rhai wedi blasu ffrwyth newydd hefyd! Da iawn chi! Ar ôl gweithio’n galed yn dysgu am yr holl fwyd a diod sydd ar gael mewn caffi, aeth y plant i’r dref i ymweld â chaffi. Cafon nhw'r cyfle i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg i archebu diod a dysgodd y plant geirfa Cymraeg i’r cyhoedd hefyd. Da iawn plant Carreg Lam am ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y gymuned! Roedd creu pitsa yn hwylus iawn. Mae’r plant i gyd wrth ei boddau gyda phitsa. Dysgon nhw nifer o ferfau newydd wrth goginio a dewision nhw nifer o gynhwysion gwahanol i roi ar ben y pitsa. I orffen yr wythnos mae'r plant wedi mwynhau dilyn rysáit a mesur y cynhwysion yn ofalus er mwyn creu diodydd blasus. Am wythnos prysur tu hwnt!



ree

ree

ree

Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf

Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Y Feddygfa’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.

  • Faint o’r gloch mae…? Pryd mae…? Am… Mae hi’n…

  • Beth sy’n bod? Beth digwyddodd? Mae gen i… tost.

  • Dwi wedi brifo fy…. / Mae e wedi brifo ei… / Mae hi wedi brifo ei…

  • Dydw i ddim yn gallu… / Dydy e ddim yn gallu… / Dydy hi ddim yn gallu…

  • Rydw i wedi… / Mae e wedi… / Mae hi wedi…

  • Dydw i ddim wedi… / Dydy e ddim wedi… / Dydy hi ddim wedi…

  • Rwy’n mynd i… / Mae hi’n mynd i… / Mae e’n mynd i…

  • Fy… (gan gofio’r treiglad trwynol)

  • Wyt ti…? Ydw / Nac Ydw

  • Ydy…? Ydw / Nac Ydw

  • Oes…? Oes / Nac Oes.

  • Misoedd y Flwyddyn

Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:


Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol a’r wythnosau sydd i ddod:



ree

Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • YR WYTHNOS NESAF: Ddydd Mercher, 10fed o Fai, byddwn yn mynd i Hollywood Bowl Cwmbrân er mwyn parhau i ddysgu'r iaith yn y byd go iawn. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam.

  • YR WYTHNOS AR ÔL: Ddydd Mercher, 17fed o Fai, byddwn yn mynd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Sain Ffagan er mwyn cymryd rhan mewn gweithdy trwy’r Gymraeg. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam. Fodd bynnag, bydd angen cinio paciedig a photel o ddŵr i'ch plentyn. Cofiwch esgidiau da, synhwyrol a chôt gynnes, ddi-ddŵr.

  • AR Y GORWEL: Mae gennym Cyfarfodydd Cynnydd a Lles disgyblion yn rhedeg ar 23/05/2023 i 25/05/2023 ar ôl ysgol. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod sut mae'ch plentyn yn gwneud hyd yn hyn, sut maen nhw wedi setlo a beth yw eu camau nesaf. Fel y gwyddoch o gylchlythyr wythnos diwethaf, mae’r cyfarfodydd ar gael mewn person (ein dewis cyntaf), cyfarfodydd dros y ffôn neu Microsoft Teams. Dylech chi gael neges heddiw. Os na, ebostiwch post@carreg-lam.com a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

Mwynhewch eich penwythnos!



ree


Dear Families,


And here we are, coming to the end of our third week at Carreg Lam! It's lovely to see the children so motivated when learning Welsh! It really makes us proud of all their efforts and success!



ree


Highlights of the Week

Our theme 'The Café' has encouraged this week's enthusiastic discussion. The children have shown confidence in expressing opinions about food they like and don't like, and the children also had the opportunity to create fruit kebabs. The children enjoyed the responsibility of cutting the fruit themselves and some have tasted new fruits too! Well done everyone! After working hard learning about all the food and drink available in a café, the children went to town to visit a café. They had the opportunity to use their Welsh language skills to order a drink and the children also taught Welsh vocabulary to some members of the public. Well done Carreg Lam's children for using the Welsh language in the community! Creating a pizza was very convenient. All the children love pizza. To finish the week, the children have enjoyed following a recipe and carefully measuring the ingredients to create delicious drinks. What a very busy week!



ree

ree

ree


Next Week’s Language Patterns and Vocabulary

Our theme for next week, ‘The Surgery’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.

  • Faint o’r gloch mae…? Pryd mae…? Am… Mae hi’n…

  • Beth sy’n bod? Beth digwyddodd? Mae gen i… tost.

  • Dwi wedi brifo fy…. / Mae e wedi brifo ei… / Mae hi wedi brifo ei…

  • Dydw i ddim yn gallu… / Dydy e ddim yn gallu… / Dydy hi ddim yn gallu…

  • Rydw i wedi… / Mae e wedi… / Mae hi wedi…

  • Dydw i ddim wedi… / Dydy e ddim wedi… / Dydy hi ddim wedi…

  • Rwy’n mynd i… / Mae hi’n mynd i… / Mae e’n mynd i…

  • Fy… (gan gofio’r treiglad trwynol)

  • Wyt ti…? Ydw / Nac Ydw

  • Ydy…? Ydw / Nac Ydw

  • Oes…? Oes / Nac Oes.

  • Misoedd y Flwyddyn


Follow the following link to see all the patterns for next week::


Remember that you can go to our website at any time to see the previous langauge patterns from previous weeks and the weeks to come:



ree


Important Dates for Your Diary

  • NEXT WEEK: On Wednesday, 10th of May, we will be going to Hollywood Bowl in order to continue learning the language in the real world. We already have your permission for this trip on your admissions form. So, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit – costs are covered by Carreg Lam.

  • THE WEEK AFTER: On Wednesday, 17th of May, we will go to the National Museum of Wales at St Fagans to take part in a Welsh language workshop. We already have your permission for this trip on your admission form. Therefore, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit - costs have been covered by Carreg Lam. However, you will need a packed lunch and a bottle of water for your child. Remember good, sensible shoes and a warm, waterproof coat.

  • ON THE HORIZON: We have Pupil Progress and Wellbeing Meetings running on 23/05/2023 to the 25/05/2023 after school. This is a great opportunity to find out how your child is doing so far, how they have settled and what their next steps are. As you know from our newsletter last week, the meetings are available in person (our first choice), telephone meetings or Microsoft Teams. You will receive a message today about this. If not, email post@carreg-lam.com and we will get back to you as soon as possible.


Enjoy your weekend!



ree

 
 
 

Comments


Carreg Lam c/o Ysgol Panteg,

Heol yr Orsaf, Tre Griffith, Pont-y-Pŵl, Torfaen, NP4 5JH

carreg-lam@torfaen.gov.uk

© Carreg Lam 2025

bottom of page