top of page

08/03/2024 - Yr Wythnos Dan Ffocws | The Week in Focus

Diwedd Wythnos 10 | End of Week 10

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


Waw! Bellach dim ond pythefnos sydd ar ôl yn Carreg Lam! Peidiwch ag anghofio seremoni graddio ein plant yr wythnos nesaf! Yr wythnos ar ôl, rydyn ni'n cael wythnos adolygu.





Uchafbwyntiau’r Wythnos

Roedd y plant wedi mwynhau dysgu am drychfilod, anifeiliaid y fferm, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid y goedwig ar ddechrau'r wythnos. Chwaraeodd y plant splat ac roedd y plant yn gyflym iawn wrth daro'r anifail cywir. Dysgodd y plant am nifer o ansoddeiriau gwahanol i ddisgrifio'r anifeiliaid hefyd ac roedd gan y plant syniadau gwych am symudiadau er mwyn cofio'r geiriau. Defnyddiodd y plant yr ansoddeiriau yn wych wrth gymharu'r anifeiliaid cywir hefyd. Yn symud ymlaen i ganol yr wythnos roedd cyfle i'r plant paentio cefndir smotiog, streipïog a lliwgar ar gyfer anifeiliaid gwahanol. Chwaraeodd y plant gêm gystadleuol o barau ansoddeiriau hefyd. Yn y prynhawn dysgodd y plant am st mae ffermwyr yn gofalu am anifeiliaid ar y fferm. Ysgrifennodd y plant amserlen i'r ffermwr ac yna dangosodd y plant hyder i sefyll o flaen y dosbarth i adrodd yr amserlen o flaen pawb. Uchafbwynt yr wythnos oedd ein trip i Ddŵr Cymru.  Roedd y plant gwir wedi mwynhau edrych a dysgu am yr holl drychfilod gwahanol yn yr awyr agored. Tuag at ddiwedd yr wythnos trafododd y plant am ei hoff anifail anwes. Casglodd y plant gwybodaeth trwy ofyn i'w gilydd. Yna rhoddodd y plant y data mewn i graff bar. Yn y prynhawn cafodd y plant y cyfle i ddewis un anifail anwes ac ysgrifennu ffeil o ffeithiau amdano. Roedd e'n wych gweld plant yn datblygu hyder i drosglwyddo geiriau i bapur. Roedd y pant wedi mwynhau'r thema yma. I orffen yr wythnos, creuodd y plant top trumps trychfilod. Roedd cyfle i chwarae'r gêm wedyn gyda ffrindiau.









Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf

Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Anifeiliaid y Byd’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.

  • Awn ni / wnawn ni

  • Aethon ni / Aethon nhw

  • Ansoddeiriau + treiglad meddal

  • Ansoddeiriau cymharol - yn dal, yn dalach na, y talaf, yn hir, yn hirach, yr hiraf

  • Idiomau - A’i wynt yn ei ddwrn, ar bigau’r drain, bwrw hen wragedd a ffyn, cael llond bol, codi calon, heb siw na miw, gwneud ei orau glas, yn wen o glust i glust, rhoi'r ffidl yn y to

  • Enwau lluosog anifeiliaid, eliffantod, pysgod, teigrod, mwncïod, adar, nadroedd, brogaod, madfallod, crwbanod, siarcod


Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:


Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol:


Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • WYTHNOS NESAF: Cofiwch bod ein seremoni graddio ar y 13/03/2024 am 10yb.





 

Dear Families,


Wow! There is now only two weeks left at Carreg Lam! Don’t forget our children’s graduation next week! The week after, we are having a revision week.





Highlights of the Week

The children had enjoyed learning about insects, farm animals, pets and forest animals at the beginning of the week. The children played splat and the children were very quick in hitting the correct animal. The children also learned about a number of different adjectives to describe the animals and the children had great ideas about movements in order to remember the words. The children used the adjectives brilliantly when comparing the correct animals too. Moving on to the middle of the week there was an opportunity for the children to paint a spotted, striped and colourful background for different animals. The children also played a competitive game of adjective pairs. In the afternoon the children learned about how farmers look after animals on the farm. The children wrote a timetable for the farmer and then the children showed confidence to stand in front of the class to recite the timetable in front of everyone. The highlight of the week was our trip to Dŵr Cymru. The children really enjoyed looking and learning about all the different insects in the open air. Towards the end of the week the children discussed his favourite pet. The children gathered information by asking each other. The children then entered the data into a bar graph. In the afternoon the children had the opportunity to choose one pet and write a file of facts about it. It was great to see children developing confidence to put words to paper. The pant had enjoyed this theme. To finish the week, the children created top trumps insects. There was an opportunity to play the game afterwards with friends.









Next Week’s Language Patterns and Vocabulary

Our theme for next week, ‘Animals of the World’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.

  • Awn ni / wnawn ni

  • Aethon ni / Aethon nhw

  • Ansoddeiriau + treiglad meddal

  • Ansoddeiriau cymharol - yn dal, yn dalach na, y talaf, yn hir, yn hirach, yr hiraf

  • Idiomau - A’i wynt yn ei ddwrn, ar bigau’r drain, bwrw hen wragedd a ffyn, cael llond bol, codi calon, heb siw na miw, gwneud ei orau glas, yn wen o glust i glust, rhoi'r ffidl yn y to

  • Enwau lluosog anifeiliaid, eliffantod, pysgod, teigrod, mwncïod, adar, nadroedd, brogaod, madfallod, crwbanod, siarcod


Follow the following link to see all the patterns for next week::


Remember that you can go to our website at any time to see the previous langauge patterns from previous weeks:


Important Dates for Your Diary

  • NEXT WEEK: Remember that our graduation ceremony is on 13/03/2024 at 10am.




6 views

Commentaires


bottom of page