top of page

19/04/2024 - Yr Wythnos dan Ffocws | The Week in Focus

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


Ni allwn gredu ei bod wedi bod yn wythnos gyfan ers i'ch plentyn ddechrau gyda ni yng Ngharreg Lam! Am wythnos! Rydyn ni wedi gwneud cymaint ac mae'r plant wedi llwyddo cymaint! Maen nhw wedi setlo'n dda iawn ac rydyn ni nawr yn dechrau'r gwaith go iawn o ddifrif.





Uchafbwyntiau’r Wythnos

Mae'n hyfryd croesawu blant newydd yr wythnos yma. Mae pawb wedi dod i adnabod ei gilydd, ymgyfarwyddo gyda’r ysgol, ac wrth gwrs, creu ffrindiau newydd. Yr wythnos yma mae'r plant wedi dysgu am rifau a lliwiau trwy chwarae gemau cyfri a Twister. Mae'r plant wedi mwynhau canu am ddyddiau'r wythnos cyn trefnu fel grŵp a chwarae bingo rhifau hefyd. Roedd pawb yn frwdfrydig wrth chwarae gem taro targed er mwyn ymarfer sgiliau adio a thynnu yng nghanol yr wythnos. Yna, tuag at ddiwedd yr wythnos, roedd hyder y plant wedi tyfu mewn hyder wrth adnabod teimladau gwahanol, disgrifio ei hunain ac wrth adrodd tablau. I orffen yr wythnos, roedd y plant wedi mwynhau ymarfer sgiliau lluosi a rhannu trwy chwarae gemau ar yr ipad ac wrth ddefnyddio toes. Roedd chwarae Guess Who yn llawer o hwyl er mwyn disgrifio nodweddion cymeriadau amrywiol hefyd.






Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf

Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Y Parc’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.

  • Beth sydd yn y…? Mae … yn y …

  • Oes… yn y …? Oes, mae… yn y … / Nac oes, does dim… yn y…

  • Arddodiaid. Ble mae… Ydy e/hi o dan/tu ôl? Ydy / Nac ydy.

  • Rwy’n gallu…

  • Rwy’n hoffi…

  • Rydw i eisiau…

  • Beth mae… yn gwneud…? Mae… yn… (berfau).


Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:


Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol a’r wythnosau sydd i ddod:


Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • YR WYTHNOS NESAF: 24/04/2024, byddwn yn mynd i Barc Pontypool er mwyn parhau i ddysgu'r iaith yn yr awyr agored. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam. Fodd bynnag, bydd angen cinio paciedig a photel o ddŵr i'ch plentyn. Cofiwch esgidiau da, synhwyrol a chôt gynnes, ddi-ddŵr.

  • YR WYTHNOS AR ÔL: 01/05/2024, byddwn yn mynd i Ganol Tref Cwmbrân er mwyn parhau i ddysgu'r iaith ym myd go iawn caffi. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam.


Gobeithio y cewch chi benwythnos hyfryd! Welwn ni chi i gyd yr wythnos nesaf!


 

Dear Families,


We can’t believe it has been one whole week since your child started with us at Carreg Lam! What a week its been! We’ve done so much and the children have come so far! They’ve settled really well and we now start the real work in earnest.





Highlights of the Week

It is lovely to welcome new children this week. Everyone has gotten to know each other, familiarised themselves with the school, and of course, made new friends. This week the children have learned about numbers and colours by playing counting games and Twister. The children have enjoyed singing about the days of the week before organising as a group and also playing numbers bingo. Everyone was enthusiastic playing a target hitting game to practice addition and subtraction skills in the middle of the week. Then, towards the end of the week, the children's confidence had grown in confidence when recognizing different feelings, describing themselves and when reciting tables. To finish the week, the children enjoyed practicing multiplication and division skills by playing games on the iPad and using dough. Playing Guess Who was a lot of fun in order to describe the characteristics of various characters as well.





Next Week’s Language Patterns and Vocabulary

Our theme for next week, ‘The Park’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.

  • Beth sydd yn y…? Mae … yn y …

  • Oes… yn y …? Oes, mae… yn y … / Nac oes, does dim… yn y…

  • Arddodiaid. Ble mae… Ydy e/hi o dan/tu ôl? Ydy / Nac ydy.

  • Rwy’n gallu…

  • Rwy’n hoffi…

  • Rydw i eisiau…

  • Beth mae… yn gwneud…? Mae… yn… (berfau).


Follow the following link to see all the patterns for next week::


Remember that you can go to our website at any time to see the previous langauge patterns from previous weeks and the weeks to come:


Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • NEXT WEEK: On 23/04/2023, we will be going to Pontypool Park in order to continue learning the language in the outdoors. We already have your permission for this trip on your admissions form. So, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit – costs are covered by Carreg Lam. However, please supply a packed lunch and bottle of water for your child. Remember good, sensible shoes and a warm, waterproof coat.

  • THE WEEK AFTER: On 23/04/2023, we will be going to Cwmbran Town Centre in order to continue learning the language in the real world of a café. We already have your permission for this trip on your admissions form. So, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit – costs are covered by Carreg Lam.


We hope you have a lovely weekend! See you all next week!

4 views

Comentarios


bottom of page