top of page

03/05/2024 - Yr Wythnos Dan Ffocws | The Week in Focus

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


A dyma ni’n dod i ddiwedd ein trydydd wythnos yng Ngharreg Lam! Mae’n hyfryd gweld y plant wedi cymhell gymaint wrth ddysgu’r Gymraeg! Mae wir yn ein gwneud yn falch o’u holl ymdrechion a llwyddiannau!





Uchafbwyntiau’r Wythnos

Mae'r wythnos yma wedi bod yn gyffrous iawn llawn amryw o brofiadau diddorol ac mae'n hyfryd gweld y plant llawn cyffro wrth wneud gweithgareddau. Ar ddechrau'r wythnos dysgodd y plant am ffrwythau a chafon nhw cyfle i greu cebab ffrwythau. Er mwyn paratoi ymhellach ar gyfer y trip i'r caffi, dysgodd y plant am fwyd traddodiadol y caffi ac roedd cyfle chwarae rôl yn y caffi hefyd. Yn y prynhawn roedd y plant wedi gweithio'n galed i goginio pitsa gan ddefnyddio llawer o'r iaith Gymraeg. Yng nghanol yr wythnos, dysgodd y plant am ffracsiynau gwahanol ac roedd y plant wedi mwynhau gweiddi mas yr atebion. Yn sicr, uchafbwynt yr wythnos oedd ymweld â'r caffi. Roedd y plant wedi dangos hyder anhygoel i ddefnyddio'r Gymraeg yn y caffi er mwyn archebu diod Ymhellach yn yr wythnos, dysgodd y plant am arian gwahanol ac roedd cyfle i ddefnyddio'r arian i greu patrymau gwahanol. Tuag at ddiwedd yr wythnos roedd y plant wedi parhau i atgyfnerthu sgiliau adio trwy ddefnyddio numicon. Cafodd y plant hefyd y cyfle i ddefnyddio ei sgiliau mesur er mwyn mesur hyd freichiau ei gilydd ac yna trefnu o'r byrraf i'r hiraf. Roedd y plant wir wedi mwynhau dysgu am gynhwysedd i greu diodydd amrywiol gyda sudd. I orffen yr wythnos, dysgodd y plant am bwysau gwahanol, roedd rhaid iddyn nhw deimlo a chymharu pwysau bagiau amrywiol ac yna mynegi pa un oedd y trymaf/ysgafnaf. Wythnos lwyddiannus dros ben! 






Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf

Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Y Feddygfa’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.

  • Faint o’r gloch mae…? Pryd mae…? Am… Mae hi’n…

  • Beth sy’n bod? Beth digwyddodd? Mae gen i… tost.

  • Dwi wedi brifo fy…. / Mae e wedi brifo ei… / Mae hi wedi brifo ei…

  • Dydw i ddim yn gallu… / Dydy e ddim yn gallu… / Dydy hi ddim yn gallu…

  • Rydw i wedi… / Mae e wedi… / Mae hi wedi…

  • Dydw i ddim wedi… / Dydy e ddim wedi… / Dydy hi ddim wedi…

  • Rwy’n mynd i… / Mae hi’n mynd i… / Mae e’n mynd i…

  • Fy… (gan gofio’r treiglad trwynol)

  • Wyt ti…? Ydw / Nac Ydw

  • Ydy…? Ydw / Nac Ydw

  • Oes…? Oes / Nac Oes.

  • Misoedd y Flwyddyn

Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:


Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol a’r wythnosau sydd i ddod:




Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • YR WYTHNOS NESAF: Ddydd Mercher, 08/05/2024, byddwn yn mynd i Hollywood Bowl Cwmbrân er mwyn parhau i ddysgu'r iaith yn y byd go iawn. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam.

  • YR WYTHNOS AR ÔL: Ddydd Mercher, 15/05/2024, byddwn yn mynd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Sain Ffagan er mwyn cymryd rhan mewn gweithdy trwy’r Gymraeg. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam. Fodd bynnag, bydd angen cinio paciedig a photel o ddŵr i'ch plentyn. Cofiwch esgidiau da, synhwyrol a chôt gynnes, ddi-ddŵr.

  • AR Y GORWEL: Mae gennym Cyfarfodydd Cynnydd a Lles disgyblion yn rhedeg ar 21/05/2024 i 23/05/2024 ar ôl ysgol. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod sut mae'ch plentyn yn gwneud hyd yn hyn, sut maen nhw wedi setlo a beth yw eu camau nesaf. Fel y gwyddoch o gylchlythyr wythnos diwethaf, mae’r cyfarfodydd ar gael mewn person (ein dewis cyntaf), cyfarfodydd dros y ffôn neu Microsoft Teams.

Mwynhewch eich penwythnos!



 

Dear Families,


And here we are, coming to the end of our third week at Carreg Lam! It's lovely to see the children so motivated when learning Welsh! It really makes us proud of all their efforts and success!





Highlights of the Week

This week has been very exciting full of various interesting experiences and it is wonderful to see the children full of excitement while doing activities. At the beginning of the week the children learned about fruit and had the opportunity to create a fruit kebab. In order to further prepare for the trip to the cafe, the children learned about the cafe's traditional food and there was also an opportunity to role play in the cafe. In the afternoon the children had worked hard to cook a pizza using a lot of the Welsh language. In the middle of the week, the children learned about different fractions and the children enjoyed shouting out the answers. Certainly, the highlight of the week was visiting the cafe. The children had shown incredible confidence in using Welsh in the cafe in order to order a drink. Furthermore in the week, the children learned about different money and had the opportunity to use the money to create different patterns. Towards the end of the week the children had continued to reinforce addition skills by using a numicon. The children also had the opportunity to use their measuring skills in order to measure the length of each other's arms and then arrange from shortest to longest. The children really enjoyed learning about capacity to create various drinks with juice. To finish the week, the children learned about different weights, they had to feel and compare the weight of various bags and then express which one was the heaviest/lightest. A very successful week!







Next Week’s Language Patterns and Vocabulary

Our theme for next week, ‘The Surgery’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.

  • Faint o’r gloch mae…? Pryd mae…? Am… Mae hi’n…

  • Beth sy’n bod? Beth digwyddodd? Mae gen i… tost.

  • Dwi wedi brifo fy…. / Mae e wedi brifo ei… / Mae hi wedi brifo ei…

  • Dydw i ddim yn gallu… / Dydy e ddim yn gallu… / Dydy hi ddim yn gallu…

  • Rydw i wedi… / Mae e wedi… / Mae hi wedi…

  • Dydw i ddim wedi… / Dydy e ddim wedi… / Dydy hi ddim wedi…

  • Rwy’n mynd i… / Mae hi’n mynd i… / Mae e’n mynd i…

  • Fy… (gan gofio’r treiglad trwynol)

  • Wyt ti…? Ydw / Nac Ydw

  • Ydy…? Ydw / Nac Ydw

  • Oes…? Oes / Nac Oes.

  • Misoedd y Flwyddyn


Follow the following link to see all the patterns for next week::


Remember that you can go to our website at any time to see the previous langauge patterns from previous weeks and the weeks to come:





Important Dates for Your Diary

  • NEXT WEEK: On Tuesday, 08/05/2024, we will be going to Hollywood Bowl in order to continue learning the language in the real world. We already have your permission for this trip on your admissions form. So, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit – costs are covered by Carreg Lam.

  • THE WEEK AFTER: On Wednesday, 15/05/2024, we will go to the National Museum of Wales at St Fagans to take part in a Welsh language workshop. We already have your permission for this trip on your admission form. Therefore, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit - costs have been covered by Carreg Lam. However, you will need a packed lunch and a bottle of water for your child. Remember good, sensible shoes and a warm, waterproof coat.

  • ON THE HORIZON: We have Pupil Progress and Wellbeing Meetings running on 21/05/2024 to the 23/05/2024 after school. This is a great opportunity to find out how your child is doing so far, how they have settled and what their next steps are. As you know from our newsletter last week, the meetings are available in person (our first choice), telephone meetings or Microsoft Teams.


Enjoy your weekend!




1 view

Comments


bottom of page