top of page

10/05/2024 - Yr Wythnos Dan Ffocws | The Week in Focus

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


Rydym wedi mwynhau wythnos arall yng Ngharreg Lam gyda’n plant bendigedig!





Uchafbwyntiau’r Wythnos

Roedd y plant wedi mwynhau ein thema newydd yr wythnos yma. Mae’n llawn caneuon hwylus ac mae’r plant wedi mwynhau dawnsio ac ychwanegu symudiadau. I ddechrau, dysgodd y plant am rannau’r corff. Dysgodd y plant sgript er mwyn deall sut i helpu rhywun sydd wedi brifo. Dangosodd y plant hyder i’w actio mas o flaen y grŵp hefyd. Wedyn roedd plant gwir wedi mwynhau cyflawni jig-so enfawr o'r sgerbwd a gweithion nhw yn wych fel tîm. Yn symud ymlaen, dysgodd y plant sut i fwcio apwyntiad i’w gilydd yn y doctor. Yna cafon nhw cyfle i chwarae rôl yn y feddygfa. Yn y prynhawn roedd amser am fach o gelf hefyd a defnyddiodd y plant ‘cotton buds’ i greu sgerbwd gydag anaf. Yn sicr uchafbwynt yr wythnos oedd ein trip i Hollywood Bowl yng nghanol yr wythnos. Roedd y plant llawn cyffro ac roedd e’n braf gweld hyder y plant i ddefnyddio'r Gymraeg wrth chwarae. Yn symud ymlaen i ddiwedd yr wythnos, roedd y plant wedi gwrando ar anafiadau ei gilydd yn ofalus cyn defnyddio rhwymyn i wella'r anafiadau. Tuag at ddiwedd yr wythnos dysgodd y plant am yr offer gwahanol a sut i’w ddefnyddio. Mae pendant wedi bod yn wythnos brysur ar ôl gwyliau'r banc ac mae'r plant wedi gweithio'n anodd iawn.







Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf

Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Y Golchdŷ’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.

  • Rydw i'n gwisgo…

  • Mae e / hi'n / rydyn ni'n / maen nhw'n gwisgo…

  • Sut mae'r tywydd heddiw? Mae hi'n...

  • Sut oedd y tywydd ddoe? Roedd hi'n…

  • Sut fydd y tywydd yfory? Bydd hi'n...

  • Pan mae… (e.e. Mae angen gwisgo cot pan mae hi'n oer)

  • Rhy... (e.e. mae'n rhy fawr)

  • Rhagfynegi (e.e. Rwy'n meddwl bydd y dillad yn sychu ar y lein ddillad)


Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:


Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol a’r wythnosau sydd i ddod:




Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • YR WYTHNOS NESAF: Ar 15/05/2024, byddwn yn mynd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Sain Ffagan er mwyn cymryd rhan mewn gweithdy trwy’r Gymraeg. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn - mae costau wedi cyfro gan Garreg Lam. Fodd bynnag, bydd angen cinio paciedig os nad ydych chi wedi archebu gyda ni. Hefyd, bydd angen potel o ddŵr i'ch plentyn. Cofiwch esgidiau da, synhwyrol a chôt gynnes, ddi-ddŵr.

  • YR WYTHNOS AR ÔL:

    • Mae gennym Cyfarfodydd Cynnydd a Lles disgyblion yn rhedeg ar 21/05/2024-23/05/2024 ar ôl ysgol. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod sut mae'ch plentyn yn gwneud hyd yn hyn, sut maen nhw wedi setlo a beth yw eu camau nesaf. Fel y gwyddoch o gylchlythyr wythnos diwethaf, mae’r cyfarfodydd ar gael mewn person (ein dewis cyntaf), cyfarfodydd dros y ffôn neu Microsoft Teams. Dylech chi nawr wedi cael cadarnhad o’r amser yr ydych chi’n cwrdd gyda staff y ganolfan. Os na, ebostiwch post@carreg-lam.com a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

    • Ar 24/05/2024, bydd plant yn cael diwrnod trosglwyddo yn ôl i'w dosbarthiadau prif ffrwd. Bydd ein staff yn ymweld â'ch plant yn yr ysgol yn hytrach na'ch plentyn yn dod i'n safle. Mae hwn yn gyswllt anhygoel o bwysig yn ôl ag ysgol eich plentyn fel y gallant gadw mewn cysylltiad agos â ffrindiau.


Mwynhewch eich penwythnos!




 

Dear Families,


We have enjoyed another week at Carreg Lam with our wonderful children!



Highlights of the Week

The children enjoyed our new theme this week. It is full of easy songs and the children have enjoyed dancing and adding movements. To begin with, the children learned about the parts of the body. The children learned a script to understand how to help someone who is hurt. The children also showed confidence to act it out in front of the group. Then the children really enjoyed completing a huge jigsaw of the skeleton and they worked brilliantly as a team. Moving on, the children learned how to book an appointment for each other at the doctor. They then had the opportunity to play a role in the surgery. In the afternoon there was also time for a bit of art and the children used 'cotton buds' to create a skeleton with an injury. Certainly the highlight of the week was our trip to the Hollywood Bowl in the middle of the week. The children were full of excitement and it was nice to see the confidence of the children to use the Welsh language while playing. Moving on to the end of the week, the children had listened carefully to each other's injuries before using a bandage to heal the injuries. Towards the end of the week the children learned about the different equipment and how to use it. It has definitely been a busy week after the bank holiday and the children have worked very hard.







Next Week’s Language Patterns and Vocabulary

Our theme for next week, ‘The Laundrette’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.

  • Rydw i'n gwisgo…

  • Mae e / hi'n / rydyn ni'n / maen nhw'n gwisgo…

  • Sut mae'r tywydd heddiw? Mae hi'n...

  • Sut oedd y tywydd ddoe? Roedd hi'n…

  • Sut fydd y tywydd yfory? Bydd hi'n...

  • Pan mae… (e.e. Mae angen gwisgo cot pan mae hi'n oer)

  • Rhy... (e.e. mae'n rhy fawr)

  • Rhagfynegi (e.e. Rwy'n meddwl bydd y dillad yn sychu ar y lein ddillad)


Follow the following link to see all the patterns for next week::


Remember that you can go to our website at any time to see the previous langauge patterns from previous weeks and the weeks to come:





Important Dates for Your Diary

  • NEXT WEEK: On 15/05/2024, we will go to the National Museum of Wales at St Fagans to take part in a Welsh language workshop. We already have your permission for this trip on your admission form. Therefore, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit - costs have been covered by Carreg Lam. However, your child will need a packed lunch if you haven't ordered with us. You will also need a bottle of water. Remember good, sensible shoes and a warm, waterproof coat.

  • THE WEEK AFTER:

    • We have Pupil Progress and Wellbeing Meetings running on 21/05/2024-23/05/2024 after school. This is a great opportunity to find out how your child is doing so far, how they have settled and what their next steps are. As you know from our newsletter last week, the meetings are available in person (our first choice), telephone meetings or Microsoft Teams. You should now have confirmation message of the time you will be meeting with the Centre's staff. If not, email post@carreg-lam.com and we will get back to you as soon as possible.

    • On 24/05/2024, children will be having a transition day back to their main-stream classes. Our staff will be visiting your children in school rather than your child coming to our site. This is an incredibly important link back with your child’s school so that they can keep in close contact with friends.


Enjoy your weekend!




4 views

Comentarios


bottom of page