top of page

17/05/2024 - Yr Wythnos Dan Ffocws | The Week in Focus

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


Waw! Rydyn ni bron hanner ffordd trwy ein hamser trochi iaith yn Carreg Lam - yr wythnos nesaf yw ein chweched wythnos! Da iawn i bob plentyn sydd wedi bod yn gweithio mor galed!





Uchafbwyntiau’r Wythnos

Mae'r plant wedi mwynhau wythnos greadigol yr wythnos yma. Ar ddechrau'r wythnos, cafodd y plant y cyfle i greu'r tywydd mas o does a thrafod y tywydd presennol, gorffennol a thywydd y dyfodol. Wrth gwrs roedd dewis tywydd gwyntog a stormus yn boblogaidd ar ôl wythnos o dywydd gwael. Roedd hefyd cyfle i arbrofi gyda phaent a threfnu lliwiau o olau i dywyll. Wedyn roedd y plant yn gystadleuol wrth chwarae gem i weld pwy fydd yn gallu gwisgo cymeriad yn y dillad gorau ar gyfer tywydd oer, poeth a gwlyb. Roedd cyfle arall i arbrofi gyda dillad yr wythnos hon ac roedd y plant i gyd yn chwerthin wrth edrych am ddillad oedd yn rhy fach, rhy fawr ac yn ffitio i'r dim.  Yna, yng nghanol yr wythnos aeth y plant i Sain Ffagan. Roedd e’n ddiwrnod gwerthfawr ac roedd e’n braf clywed y plant yn trafod beth welsom nhw gan ddefnyddio’r iaith clywon nhw ar y trip. Roedd y plant mor flinedig ar y ffordd yn ôl. Tuag at ddiwedd yr wythnos, roedd y plant wedi mwynhau dysgu a gweithio gyda dŵr. Roedd y plant wedi gweld pa adnoddau sydd yn arnofio a suddo. I orffen yr wythnos, dechreuodd y plant arbrawf gwyddoniaeth i weld ble fydd y dillad brwnt yn sychu orau ar ôl cael ei golchi. Roedd gan y plant nifer o syniadau da. Yn sicr, roedd y plant wedi mwynhau creu dillad brwnt yn barod am yr arbrawf y diwrnod nesaf.








Dechrau Meddwl am Gam 2 y Rhaglen

Fel y gwyddoch, rhagwelir bod disgyblion yn mynychu Carreg Lam am 12 wythnos er mwyn dysgu'r iaith mewn ffordd strwythuredig a phwrpasol, dan arweiniad arbenigwyr, cyn trosglwyddo i ddosbarth prif-ffrwd o fewn ysgol ganolig Gymraeg yn Nhorfaen. Addysgir geirfa, patrymau ieithyddol a strwythurau iaith trwy ddulliau y profwyd eu bod yn gweithio (megis chwarae rôl, gemau, driliau iaith). Mae hyn yn golygu bod gan ddisgyblion ruglder sylfaenol yn yr iaith Gymraeg, gall gyrchu'r gallu i ddefnyddio'r iaith Gymraeg mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, datblygu sgiliau meddwl ac maent yn barod ar gyfer mynychu ysgol ganolig Gymraeg. Dyma rydym yn galw'n Cam 1 o'n rhaglen.


Yn dilyn y 12 wythnos gychwynnol hyn, lle mae'r plant yn profi dysgu iaith dwys er mwyn ysgogi sgiliau iaith sylfaenol, mae Cam 2 yn dechrau. Yn ystod y cam nesaf hwn, mae'r ganolfan yn parhau i'w cefnogi trwy ymweliadau, cydweithredu â'u hysgol a chreu cynllun personol o strategaethau a chefnogaeth. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys adroddiad unigol ar gynnydd dysgu iaith Gymraeg eich plentyn yn ystod Cam 1, gwybodaeth am ei lles/les, strategaethau sy'n gweithio i'ch plentyn ac unrhyw bryderon sydd gennych chi neu sydd gennym ni. Bydd hwn hefyd yn gynllun wedi’i amserlenni’n fanwl ar gyfer trosglwyddo a chefnogi i'ch plentyn a'ch staff yn ôl yn eu lleoliadau prif ffrwd. Bydd y cynllun yn nodi targedau nesaf eich plentyn. Yna, bydd hyn yn cael ei adolygu cyn i staff y ganolfan dynnu'n ôl yn llwyr a bod eich plentyn yn pontio i gael cefnogaeth lawn gan staff prif-ffrwd.


Mae ein cefnogaeth dysgu iaith, felly, yn digwydd mewn tri cham ac mae lefel y gefnogaeth a'r ddarpariaeth sydd ei hangen ar bob plentyn yn amrywio o fewn y camau hyn.





Fel y ganlyn, Ddydd Gwener, 24/05/2024, bydd plant yn cael diwrnod trosglwyddo yn ôl i'w dosbarthiadau prif ffrwd. Bydd ein staff yn ymweld â'ch plant yn yr ysgol yn hytrach na'ch plentyn yn dod i'n safle. Mae hwn yn gyswllt anhygoel o bwysig yn ôl ag ysgol eich plentyn fel y gallant gadw mewn cysylltiad agos â ffrindiau. Dyma fydd dechrau ein staff o gynllunio ar gyfer Cam 2 o'n rhaglen trochi iaith.



Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf

Mae ein hwythnos sydd i ddod ychydig yn wahanol i'r arferol o ran patrymau iaith a geirfa newydd. Bron i hanner ffordd trwy'r rhaglen trochi iaith, wythnos 6 yw ein wythnos adolygu ac ailadrodd. Felly, byddwn yn edrych ar yr holl iaith yr ydym wedi'i dysgu hyd at y pwynt hwn!


Rydym yn cynnwys yma, wedi atodi, ein llyfryn patrymau iaith fel y gallwch weld popeth yr ydym wedi'i ddysgu hyd yn hyn.


Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol a’r wythnosau sydd i ddod:




Ein Hasesiadau a Thermau Asesu

Bob wythnos, rydym yn asesu cynnydd plant yn erbyn geirfa allweddol mewn 6 chategori gwahanol. Er enghraifft, yn Uned 3: Y Caffi, aseswyd setiau canlynol o eirfa i dracio caffael iaith:

  • Geirfa'r Caffi

  • Geirfa Ffrwythau, Llysiau a Bwyd Cyffredinol

  • Geirfa Coginio

  • Geirfa Wynebau

  • Geirfa Mathemategol ac Arian

  • Geirfa Maint


Pan fyddwn yn asesu pob set o eirfa, rydym yn defnyddio pedwar term i’n helpu ni i ddeall sgiliau iaith plentyn eich plentyn. Rydym yn parhau i gefnogi eich plentyn gyda phob set o batrymau iaith a geirfa nes iddynt gyrraedd ‘gwreiddio’. Rydym yn rhannu hyn fel y byddwch yn deall cynnydd eich plentyn yn llawn pan fyddwn yn cwrdd â chi yr wythnos nesaf ar gyfer cynnydd a chyfarfodydd lles ein disgyblion. Dyma dabl sy’n amlinellu’r hyn a olygwn wrth bob term:





Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • YR WYTHNOS NESAF:

    • (ATGOF OLAF): Mae gennym Cyfarfodydd Cynnydd a Lles disgyblion yn rhedeg yr wythnos nesaf ar ôl ysgol. Dylech chi nawr wedi cael cadarnhad o’r amser yr ydych chi’n cwrdd gyda staff y ganolfan. Os na, ebostiwch post@carreg-lam.com a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

    • Ar 24/05/2024, bydd plant yn cael diwrnod trosglwyddo yn ôl i'w dosbarthiadau prif ffrwd. Bydd ein staff yn ymweld â'ch plant yn yr ysgol yn hytrach na'ch plentyn yn dod i'n safle. Mae hwn yn gyswllt anhygoel o bwysig yn ôl ag ysgol eich plentyn fel y gallant gadw mewn cysylltiad agos â ffrindiau. Dyma fydd dechrau ein staff o gynllunio ar gyfer Cam 2 o'n rhaglen trochi iaith fel y manylir uchod.

  • AR Y GORWEL: Ar 12/06/2024, byddwn yn mynd ar daith gerdded o amgylch yr ardal lleol er mwyn parhau i ddysgu'r iaith yn yr awyr agored. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn. Mae trefniadau cinio arferol yn parhau ar y diwrnod hwn. Cofiwch esgidiau da, synhwyrol a chôt gynnes, gwrth-ddŵr.


Plant Newydd ar gyfer Carreg Lam

Ydych chi'n adnabod unrhyw deuluoedd eraill sydd eisiau rhodd dwyieithrwydd i'w plentyn? Gallwn helpu! Y ffordd orau o gael y gair allan am Carreg Lam yw chi fel teuluoedd! Rydyn ni wedi atodi taflen fel y gallwch chi rannu mor bell â hyn!


Yng nghanol ein canolfan mae dau beth: pobl a'r iaith Gymraeg. Ein gwaith ni yw dod â'r ddau at ei gilydd mewn ffordd gyffrous ond gofalgar. Rydyn ni am roi cyfle i blant ddysgu Cymraeg i safon rhugl pan maen nhw'n meddwl eu bod nhw wedi colli eu cyfle. Y gwir yw nad yw byth yn rhy hwyr!


Y cyfan sydd angen iddyn nhw ei wneud yw dilyn y ddolen hon i drefnu ymweliad a chael eu plentyn i gofrestru ar gyfer y cyfle arbennig iawn hwn!





Gobeithiwn y byddwch chi'n mwynhau eich penwythnos!




 

Dear Families,


Wow! We are nearly half way through our language immersion time at Carreg Lam – next week is our sixth week! Well done to every child – they have all been working so hard!




Highlights of the Week

The children have enjoyed a creative week this week. At the beginning of the week, the children had the opportunity to create the weather from playdough and discuss the present, past and future weather. Of course choosing windy and stormy weather was popular after a week of bad weather. There was also the opportunity to experiment with paint and arrange colours from light to dark. The children were then competitive while playing a game to see who will be able to dress a character in the best clothes for cold, hot and wet weather. There was another opportunity to experiment with clothes this week and all the children were laughing when they looked for clothes that were too small, too big and clothes that fit just right. Then in the middle of the week the children went to St Fagans. It was a very worthwhile day and it was great to hear the children discuss what they saw using the language they heard on the trip. The kids were so tired on the way back. Towards the end of the week, the children enjoyed learning and working with water. The children experimented to see which resources floated and sank. To finish the week, the children started a science experiment to see where the dirty clothes will dry best after being washed. The kids had a number of good ideas. The children had certainly enjoyed creating dirty clothes in preparation for the next day's experiment.






Beginning to Think About Step 2 of the Programme

As you know, it is anticipated that pupils attend Carreg Lam for 12 weeks in order to learn the language in a structured and purposeful way, guided by experts, before transferring to a mainstream class within a Welsh medium school in Torfaen. Vocabulary, linguistic patterns and language structures are taught through methods that have been proven to work (such as role playing, games, language drills). This means that pupils have a foundational fluency in the Welsh language, can access the ability to use the Welsh language in a variety of situations, develop thinking skills and are prepared for attending a Welsh medium school. We call this Step 1 of our programme.


Following these initial 12 weeks, where the children experience intensive language learning in order to stimulate basic language skills, Step 2 begins. During this next stage, the centre continues to support them through visits, collaboration with their school and creating a personalised plan of strategies and support. This plan will include an individual report on your child’s Welsh language learning progress during Step 1, information about their wellbeing, strategies that work for your child and any concerns you or we have. This will also a detailed timetable plan for transition and support for your child and staff back at their main-stream settings. The plan will set out your child’s next targets. This will then be reviewed before our staff withdraw completely and your child transitions to being fully supported by main-stream staff.


Our language learning support, therefore, takes place in three stages and the level of support and provision each child needs varies within these stages.





As such, on Friday, 24/05/2024, children will be having a transition day back to their main-stream classes. Our staff will be visiting your children in school rather than your child coming to our site. This is an incredibly important link back with your child’s school so that they can keep in close contact with friends. This will be our staff’s beginning of planning for Step 2 of the language immersion programme.




Next Week’s Language Patterns and Vocabulary

Our upcoming week is a little different to the normal when it comes to new language patterns and vocabulary. Nearly half way through the language immersion programme, week 6 is our revision and recap week. Therefore, we will looking at all the language we have learnt up to this point!


We include here, attached, our booklet of language patterns so that you can see all we have learnt so far.


Remember that you can go to our website at any time to see the previous language patterns from previous weeks and the weeks to come:




Our Assessments

Each week, we assess the progress of children against key vocabulary against the 6 different categories we’ve been sharing in our newsletters. For instance, in Unit 3: The Café, we assessed the following sets of vocabulary to track language acquisition:

  • Vocabulary of the Café

  • General Fruit, Vegetable and Food Vocabulary

  • Cooking Vocabulary

  • Vocabulary of the Face

  • Mathematical Vocabulary and Money

  • Size Vocabulary


When we assess each set of vocabulary, we use four terms to help us understand your child’s language skills. We continue supporting your child with each set of language patterns and vocabulary until they reach ‘embedded’. We are sharing this so that when we meet with you next week for our Pupil Progress and Wellbeing Meetings, you will fully understand your child’s progress. Here is a table outlining what we mean by each term:




Important Dates for Your Diary

  • NEXT WEEK:

    • (LAST REMINDER): We have Pupil Progress and Wellbeing Meetings running next week after school. You should now have confirmation message of the time you will be meeting with the Centre's staff. If not, email post@carreg-lam.com and we will get back to you as soon as possible.

    • On 24/05/2024, children will be having a transition day back to their main-stream classes. Our staff will be visiting your children in school rather than your child coming to our site. This is an incredibly important link back with your child’s school so that they can keep in close contact with friends. This will be our staff’s beginning of planning for Step 2 of the language immersion programme as detailed above.

  • ON THE HORIZON: On 12/06/2024, we will be going for a walk around the local area to continue learning the language outdoors. We already have your permission for this trip on your admission form. Therefore, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit. Normal lunch arrangements continue on this day. Remember good, sensible shoes and a warm, waterproof coat.


New Children for Carreg Lam

Do you know any other families who want the gift of bilingualism for their child? We can help! The best way of getting the word out about Carreg Lam is you as families! We’ve attached a flyer so that you can share this far and wide!


At the centre of our centre are two things: people and the Welsh language. Our job is to bring the two together in an exciting yet caring way. We want to give children the chance to learn Welsh to a fluent standard when they think they’ve missed their chance. The truth is that it is never too late!


All they need to do is to follow this link to arrange a visit and getting their child signed up for this very special opportunity!




We hope that you enjoy your weekend!



1 view

Comments


bottom of page