top of page

23/05/2024 - Yr Wythnos Dan Ffocws | The Week in Focus

Diwedd Wythnos 6 | End of Week 6

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


Dydyn ni methu credu ein bod ni wedi cael 6 wythnos gyda’n plant nawr! Wow! Mae amser yn hedfan!



Uchafbwyntiau’r Wythnos

Am wythnos hyfryd i orffen cyn hanner tymor. I ddechrau'r wythnos roedd y plant wedi cwblhau arbrawf a gwneud casgliad i esbonio ble sychodd y dillad y gorau. Roedd hyn yn gyfle gwych i weld pwy ragfynegodd yn gywir.  Roedd pawb gwir wedi mwynhau taro targed ac yna defnyddio ei sgiliau adio a thynnu i gyfrifo'r sgôr hefyd. Defnyddiodd pawb adnoddau amrywiol i gyfrifo'r ateb. Yn symud ymlaen yn yr wythnos cafodd y plant cyfle i greu cwrs rhwystr er mwyn caffael iaith safle ac roedd e'n grêt manteisio ar y tywydd braf mas tu fas. Yna, roedd rhaid iddyn nhw wrando yn ofalus i'w partner er mwyn rhoi'r multilinc yn lle cywir. Yn y prynhawn, dysgodd y plant sut i fynegi barn am fwyd ac roedd cyfle i ail-ymweld gydag enwau bwydydd gwahanol. Roedd y plant wedi mwynhau rhedeg o un ochr i'r llall er mwyn mynegi pa fwydydd maen nhw’n hoffi/dim yn hoffi. Uchafbwynt yr wythnos i'r plant oedd chwarae rôl yn y caffi ac yn y feddygfa. Maen nhw wrth eu bodd yn actio a chlywon ni llawer iawn o Gymraeg fantastic. Mae'r plant gwir wedi tyfu mewn hyder. Yn symud tuag at ddiwedd yr wythnos, defnyddio'r plant peli ping pong er mwyn gofyn ac ateb cwestiynau. Roedd sesiwn canu gyda Cherdd Torfaen Music ac yna i orffen yn y prynhawn roedd cyfle ddylunio meddygfa ei hun. Roedd y plant yn frwdfrydig iawn. Mae'r plant yn gyffrous i dreulio diwrnod yn eu dosbarth cyn y gwyliau ac edrychwn ymlaen at eu gweld ar y 3ydd  o Fehefin yn dilyn y gwyliau.







Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Nesaf

Mae ein thema ar gyfer yr wythnos nesaf, ‘Synhwyrau a’r Tymhorau’, yn golygu y byddwn yn dysgu llawer o strwythurau iaith a geirfa. Dyma ddetholiad o’r prif batrymau iaith y byddwn yn eu hymarfer wythnos nesaf.

  • Es i... / Ces i...

  • ...ais i (Berfau)

  • Roeddwn i…

  • Aeth e/hi..

  • Cafodd e/hi…

  • ...odd e/hi (Berfau) / Roedd e/hi…

  • Byddai'n.../ Bydd e/hi… / Byddwn ni…

  • Pryd mae...?

  • Geirfa Gwyddoniaeth: Hylif, Solid, Nwy, Ymsolido, Ymdoddi


Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos nesaf:


Cofiwch rydych chi’n gallu mynd i’n wefan ar unrhyw bryd er mwyn gweld patrymau’r wythnosau blaenorol a’r wythnosau sydd i ddod:


Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

  • AR Y GORWEL: Ar 12/06/2024, byddwn yn mynd ar daith gerdded o amgylch yr ardal lleol er mwyn parhau i ddysgu'r iaith yn yr awyr agored. Mae gennym eisoes eich caniatâd ar gyfer y daith hon ar eich ffurflen dderbyn. Felly, dim ond os nad ydych chi am i'ch plentyn fynychu'r ymweliad addysgol y mae angen i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw gost am yr ymweliad hwn. Mae trefniadau cinio arferol yn parhau ar y diwrnod hwn. Cofiwch esgidiau da, synhwyrol a chôt gynnes, gwrth-ddŵr


 

Dear Families,


We can't believe we've had 6 weeks with the children now! Wow! Time is flying!




Highlights of the Week

What a lovely week to finish before the half term holiday. To start the week the children completed the experiment and wrote a conclusion to explain where the clothes dried the best. This was a great opportunity to see who predicted correctly.  Everyone really enjoyed hitting a target and then using their addition and subtraction skills to calculate the score as well. Everyone used various resources to figure out the answer. Moving forward in the week the children had the opportunity to create an obstacle course to acquire the prepositional language and it was great to take advantage of the good weather out outside. They then had to listen carefully to their partner to put the multilink in the right place alongside cups. In the afternoon, the children learned how to express their opinions about food and had the opportunity to re-visit with different food names. The children enjoyed running from one side to the other to express what foods they like/don't like. The highlight of the week for the children was role-playing in the café and at the surgery. They love acting and we heard a great deal of fantastic Welsh. The children really have grown in confidence. Moving towards the end of the week, the children used ping pong balls to ask and answer questions. This was followed by a singing session with Cerdd Torfaen Music after lunch.  To finish in the afternoon was an opportunity to design a surgery of their own. The children were very enthusiastic. The children are excited to spend a day in their class before the holidays and we look forward to seeing them on June 3rd following the break.







Next Week’s Language Patterns and Vocabulary

Our theme for next week, ‘Senses and the Seasons ’, means that there are lots of language structures and vocabulary that we will be learning. Here is a selection of the main language patterns that we will be practicing next week.

  • Es i... / Ces i...

  • ...ais i (Berfau)

  • Roeddwn i…

  • Aeth e/hi..

  • Cafodd e/hi…

  • ...odd e/hi (Berfau) / Roedd e/hi…

  • Byddai'n.../ Bydd e/hi… / Byddwn ni…

  • Pryd mae...?

  • Geirfa Gwyddoniaeth: Hylif, Solid, Nwy, Ymsolido, Ymdoddi


Follow the following link to see all the patterns for next week::


Remember that you can go to our website at any time to see the previous language patterns from previous weeks and the weeks to come:


Important Dates for Your Diary

  • ON THE HORIZON: On 12/06/2024, we will be going for a walk around the local area to continue learning the language outdoors. We already have your permission for this trip on your admission form. Therefore, you only need to contact us if you do not want your child to attend the educational visit. There is no cost for this visit. Normal lunch arrangements continue on this day. Remember good, sensible shoes and a warm, waterproof coat.

7 views

Комментарии


bottom of page