top of page

10/09/2024 - Yr Wythnos dan Ffocws | The Week in Focus

Diwedd Diwrnod 1 | End of Day 1


SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Annwyl Deuluoedd,


Croeso i Garreg Lam! Rydym mor gyffrous bod eich plentyn wedi ymuno â ni ar gyfer ein rhaglen trochi iaith! Mae’r plant wedi selto’n gyflym heddiw ac wedi mwynhau eu diwrnod cyntaf!


Fel y gwyddoch, mae Carreg Lam yn cynnig cyfle i ddisgyblion ddysgu Cymraeg yn rhugl. Mae’r ganolfan trochi iaith yn darparu cwrs dysgu iaith i ddisgyblion o Flwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 6.


Bob wythnos, ar ddyddiau Gwener, byddwch yn cael cylchlythyr fel hwn yn amlygu rhai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd yn ystod yr wythnos, y patrymau iaith allweddol a'r eirfa y bydd eich plentyn yn eu dysgu, pwyntiau pwysig i chi fod yn ymwybodol ohono a dyddiadau i ddod.


Sut mae'r Rhaglen yn Gweithio?

Bydd eich plentyn yn mynychu Carreg Lam am 12 wythnos er mwyn dysgu’r iaith mewn ffordd strwythuredig a phwrpasol, dan arweiniad arbenigwyr, cyn trosglwyddo i ddosbarth prif ffrwd o fewn ysgol gyfrwng Gymraeg yn Nhorfaen. Dysgir geirfa, patrymau ieithyddol a strwythurau iaith trwy ddulliau sydd wedi eu profi i weithio (megis chwarae rôl, gemau, driliau iaith). Mae hyn yn golygu y bydd gan ddisgyblion ruglder sylfaenol yn yr iaith Gymraeg, yn gallu defnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, yn datblygu sgiliau meddwl ac yn barod ar gyfer mynychu ysgol gyfrwng Gymraeg.


Yn dilyn y deuddeg wythnos gychwynnol hyn, lle mae’r plant yn profi dysgu iaith dwys er mwyn ysgogi sgiliau iaith sylfaenol, mae’r ganolfan yn parhau i’w cefnogi trwy ymweliadau, cydweithio â’u hysgol a chreu cynllun personol o strategaethau a chefnogaeth.


Mae lles pob disgybl yn ganolog i’r hyn a wnawn. Rydym yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad a theimladau’r disgyblion ynghyd â monitro cyson o’u perfformiad. Rydym yn sicrhau bod eich plentyn yn cael cyfleoedd dyddiol i ymgysylltu â disgyblion o’u hoedran ar gyfer gofal llesol.


Polisi Drws Agored

Yng Ngharreg Lam, mae gennym bolisi drws agored i deuluoedd. Dros y deuddeg wythnos, bydd sawl pwynt cyswllt lle byddwn mewn cysylltiad â theuluoedd ac athro/athrawes prif-ffrwd eich plentyn. Fodd bynnag, mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd am gymorth, cyngor neu i rannu unrhyw bryder. Rydym yn croesawu sgwrs ac gobeithiwn gweithio'n agos gyda chi. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni! Gallwch gysylltu â ni drwy:

-ddod i'n gweld cyn neu ar ôl amser ysgol;

-yn rhoi galwad i ni ar 01495 762581; neu,

-anfon e-bost atom (post@carreg-lam.com).


Ein Staff: Pwy yw Pwy?

Staff bach sy’n rhedeg Carreg Lam sy’n gwneud yn awyrgylch teuluol a chartrefol. Dyma’r pobl fydd angen i chi wybod!



Mrs Carys Soper: Arweinydd yr Ganolfan ac Athrawes



Miss Megan Stokes: Cynorthwyydd y Ganolfan



Dr. Matthew Williamson-Dicken: Pennaeth y Ganolfan


Patrymau Iaith a Geirfa’r Wythnos Hon

Pob wythnos rydym yn ffocysu ar eirfa penodol a phatrymau iaith berthnasol. Bydd eich plant yn dysgu llawer o eirfa mewn wythnos. Mae setiau cyflawn o’r geirfa a phatrymau iaith ar gyfer pob uned ar ein wefan felly gallwch chi weld ac ymarfer gyda’ch plentyn (https://www.carreg-lam.com/8).


Er hynny, pob wythnos fe fyddwn yn cyhoeddi yma yn y cylchlythyr prif batrymau ac eirfa y bydd eich plentyn yn dysgu ac yn ymarfer. Dyma brif batrymau ac eirfa’r wythnos hon:

  • Pwy wyt ti? [Enw] ydw i. Sut wyt ti? Da iawn, diolch.

  • Mae gen i...

  • Ga'i … os gwelwch chi'n dda?

  • Diolch/ dim diolch

  • Rydw i wedi gorffen.

  • Pa liw ydy..?

  • Dewch / Eisteddwch / Sefwch / Codwch / Gwrandewch / Edrychwch

  • Dyma…

  • Rhifau

  • Lliwiau


Dilynwch y ddolen canlynol er mwyn gweld yr holl batrymau ar gyfer yr wythnos hon:


Dyddiadau Pwysig i’ch Dyddiadur

Dyma dabl o ddyddiadau pwysig ar gyfer eich calendr. Peidiwch â becso, byddwn yn rhannu pethau ychydig ar y tro wrth i ni symud ymlaen drwy’r rhaglen! Ond dyma rai ddyddiadau o flaenllaw!



Edrychwn ymlaen at wythnos gyntaf eich plentyn yng Ngharreg Lam!


 

Dear Families,


Welcome to Carreg Lam! We are so excited that your child has joined us for our language immersion programme! The children have settled really quickly today and have enjoyed their first day!


As you know, Carreg Lam offers pupils the opportunity to learn Welsh fluently. The language immersion centre provides a language learning course for pupils from Year 2 up to Year 6.


Each week, on Fridays, you will get a newsletter like this one highlighting some of things that have been happening during the week, the key language patterns and vocabulary your child will be learning, important points for you to be aware of and upcoming dates.


How does the Programme Work?

Your child will attend Carreg Lam for 12 weeks in order to learn the language in a structured and purposeful way, guided by experts, before transferring to a mainstream class within a Welsh medium school in Torfaen. Vocabulary, linguistic patterns and language structures are taught through methods that have been proven to work (such as role playing, games, language drills). This means that pupils will have a foundational fluency in the Welsh language, can use the Welsh language in a variety of situations, develop thinking skills and are prepared for attending a Welsh medium school.


Following these initial twelve weeks, where the children experience intensive language learning in order to stimulate basic language skills, the centre continues to support them through visits, collaboration with their school and creating a personalised plan of strategies and support.


The wellbeing of every pupil is central to what we do. We keep a close eye on the pupils' development and feelings along with constant monitoring of their performance. We ensure that your child receives daily opportunities to engage with pupils of their own age for wellbeing care.


Open Door Policy

At Carreg Lam, we have an open door policy for families. Across the twelve weeks, there will be multiple checkpoints where we will be in contact with families and your child’s main-stream teacher. However, you are welcome to contact us at any time for support, advice or to share any of your concerns. We welcome conversation and desire to work closely with you. Please don’t hesitate to get in contact with us! You can contact us by:

-coming to see us before or after school time;

-giving us a ring on 01495 762581; or,

-sending us an email (post@carreg-lam.com).


Our Staff: Who’s Who?

It is a small staff who run Carreg Lam which gives us a homely, family orientated focus. Here are the people you will need to know!



Mrs Carys Soper: Leader of the Centre and Teacher



Miss Megan Stokes: Teaching Assistant



Dr. Matthew Williamson-Dicken: Head of the Centre


This Week’s Language Patterns and Vocabulary

Each week, we focus on specific vocabulary and relevant language patterns. Your child will learn a lot of vocabulary in a week. A complete set of the vocabulary and language patterns for each unit on our website so you can see and help your child to practice (https://www.carreg-lam.com/8).


However, every week we will publish here in the newsletter the main patterns and vocabulary that your child will learn and practice. Here are this week's main patterns and vocabulary:

  • Pwy wyt ti? [Enw] ydw i. Sut wyt ti? Da iawn, diolch.

  • Mae gen i...

  • Ga'i … os gwelwch chi'n dda?

  • Diolch/ dim diolch

  • Rydw i wedi gorffen.

  • Pa liw ydy..?

  • Dewch / Eisteddwch / Sefwch / Codwch / Gwrandewch / Edrychwch

  • Dyma…

  • Rhifau

  • Lliwiau

Follow the following link to see all the patterns for this week:


Important Dates for Your Diary

Here is a table of important dates for your calendar. Don’t panic, we will be sharing things in chunks as we progress through the programme! But, but here are some important ones before we begin



We look forward to spending our first week with your child at Carreg Lam!




0 views

Comments


bottom of page